Cwest: Bachgen pedair oed wedi marw wrth geisio gwthio rholer gardd
Cwest: Bachgen pedair oed wedi marw wrth geisio gwthio rholer gardd
Mae cwest wedi clywed fod bachgen pedair oed o Geredigion wedi marw wrth geisio gwthio rholer gardd.
Bu farw Maldwyn 'Gwern' Evans ar ddydd Iau, 20 Mehefin yng ngardd ei gartref yn Nhynreithin, Tregaron.
Fe gafodd y cwest ei agor a'i ohirio yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth ddydd Mercher.
Clywodd y cwest fod y bachgen wedi ei anafu wrth geisio gwthio rholer gardd, ac fe aeth dros rhan o'i gorff.
Cafodd y cwest ei ohirio gan Uwch-grwner Ceredigion Mr Peter Bunton tan 9 Hydref, tra bydd postmortem yn cael ei gynnal.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Dywedodd teulu'r bachgen ei fod yn fab "cariadus" ac yn frawd "gofalgar".
"Fel teulu, rydyn ni wedi torri ein calonnau am y golled yma," medden nhw.
"Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei deulu a’r gymuned gyfan.
"Roedd yn fab cariadus ac yn frawd gofalgar, a gyffyrddodd â chalonnau cymaint o bobl.
"Roedd wedi byw ei fywyd byr i'r eithaf a bydd yn cael ei gofio am ei bersonoliaeth swynol. Roedd yn ffermwr bach awyddus iawn ac roedd ganddo wybodaeth a gallu y tu hwnt i'w flynyddoedd."