Newyddion S4C

Gwerthu'r casgliad mwyaf o eitemau'r Dywysoges Diana ers ei marwolaeth

26/06/2024
Arwerthiant y Dywysoges Diana

Bydd casgliad o ffrogiau, ategolion a chofroddion yn perthyn i Diana, Tywysoges Cymru yn cael eu gwerthu yn yr Unol Daleithiau.

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal yng ngwesty The Peninsula Beverly Hills, California ar 27 Mehefin.

Dyma'r casgliad mwyaf o eiddo personol Diana ers iddi werthu dwsinau o'i ffrogiau yn ystod arwerthiant elusennol yn Efrog Newydd ym 1997, yn ôl Julien's Auctions, sef y cwmni sy'n cynnal y digwyddiad.

Bydd nifer o ffrogiau a gafodd eu gwerthu yn ystod yr arwerthiant hwnnw, ddau fis cyn ei marwolaeth, yn uchafbwynt yr arwerthiant ddydd Iau.

Mae disgwyl i ffrog las gan Murray Arbeid, a wisgodd Diana ddwywaith yn 1986 — i berfformiad o Phantom Of The Opera ac i ginio gyda'r Brenin Constantine o Wlad Groeg — ac i berfformiad o Cinderella yn y Tŷ Opera Brenhinol ym 1987, werthu am hyd at $400,000 (£315,000).

Yn ogystal mae disgwyl i ffrog borffor gan Victor Edelstein, a gafodd ei gwisgo gan Diana yn Llundain a'r Almaen ym 1987, werthu am yr un swm.

“Bydd pobl yn adnabod yr enw hwnnw oherwydd bod Victor Edelstein hefyd wedi dylunio’r ffrog las enwog iawn a wisgodd Diana pan ddawnsiodd gyda John Travolta yn y Tŷ Gwyn ym 1985,” meddai Martin Nolan, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol Julien’s Auctions.

Mae disgwyl i ffrog flodeuog binc a ddyluniwyd gan Catherine Walker, y gwisgodd Diana i ddiwrnod mabolgampau’r Tywysog William yn Stadiwm Richmond ym 1988, gael ei gwerthu am hyd at $200,000 (£158,000).

Daw’r arwerthiant ar ôl i ffrog a ddyluniwyd gan Jacques Azagury, a wisgodd Diana yn yr Eidal ym 1985, werthu am fwy na miliwn o ddoleri ym mis Rhagfyr — gan osod record byd newydd am y ffrog ddrytaf a wisgwyd gan aelod o'r Teulu Brenhinol mewn arwerthiant.

Bydd yr arwerthiant ddydd Iau yn cynnwys mwy na 200 o eitemau gan aelodau o'r Teulu Brenhinol.

Ond eitemau'r Dywysoges Diana fydd yn "cymryd y llwyfan", meddai Mr Nolan.

“Bydd dros 50 o eitemau o’i bywyd a’i gyrfa, ffrogiau anhygoel gan ei holl hoff ddylunwyr, ond hefyd nodiadau a chardiau personol mewn llawysgrifen,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.