Aelod o Senedd Cymru dan ymchwiliad am fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol
Mae Aelod o Senedd Cymru yn wynebu ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo dros fetio honedig ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
Mae Russell George, aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi camu’n ôl o gabinet cysgodol Cymru tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae Mr George yn cynrychioli Sir Drefaldwyn – yr un ardal â Craig Williams, yr ymgeisydd Torïaidd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol sydd wedi colli cefnogaeth y blaid gan ei fod yn wynebu honiadau tebyg.
Mewn datganiad, dywedodd Russell George mai “y Comisiwn Gamblo, nid y cyfryngau” sydd â’r cyfrifoldeb a’r pwerau i archwilio’r mater yn iawn, ac na fyddai’n gwneud sylw pellach.
“Er y byddaf yn cydweithredu’n llawn â’r Comisiwn Gamblo, ni fyddai’n briodol gwneud sylw ar y broses annibynnol a chyfrinachol hon," meddai.
“Byddai gwneud hynny ond yn peryglu a thanseilio’r ymchwiliad.
"Y Comisiwn Gamblo, nid y cyfryngau, sydd â’r cyfrifoldeb, y pwerau a’r adnoddau i ymchwilio’n briodol i’r materion hyn a phenderfynu pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.
“Rwyf wedi camu’n ôl o’r cabinet cysgodol tra bod yr ymchwiliad yn parhau. Rwyf wedi gwneud hyn gan nad wyf yn dymuno tynnu sylw diangen at eu gwaith.
“Ni fyddaf yn darparu unrhyw sylw cyhoeddus pellach ar hyn nes bod y comisiwn wedi gorffen ei waith.”
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies nad oedd unrhyw aelodau eraill o'r blaid yng Nghymru wedi gosod unrhyw fetiau.
“Mae holl aelodau eraill Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi gosod unrhyw fetiau," meddai.
“Ni fyddaf yn gwneud sylwadau pellach ar y broses hon, gan gydnabod cyfarwyddyd y Comisiwn Gamblo ar gyfrinachedd i ddiogelu uniondeb y broses.”
Honiadau eraill
Daeth i'r amlwg ddydd Mawrth fod Ysgrifennydd Yr Alban, Alister Jack wedi dweud iddo ennill mwy na £2,000 o fetio ar etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Yn fuan ar ôl i’r Prif Weinidog Rishi Sunak gyhoeddi dyddiad yr etholiad, dywedodd Ysgrifennydd yr Alban, Alister Jack, wrth y BBC ei fod wedi ennill £2,100 ar ôl betio ar ddyddiadau etholiad Mehefin a Gorffennaf.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mr Jack wrth y BBC bod y sylwadau yn “jôc… roeddwn i’n tynnu eich coes”.
Ond dywedodd mewn datganiad ddydd Mawrth, “nad oedd wedi gosod unrhyw fetiau ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol yn ystod mis Mai”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Gamblo: “Nid ydym yn cadarnhau nac yn gwadu bod unrhyw unigolion sy’n rhan o’r ymchwiliad hwn.”
Yn gynharach ddydd Mawrth cyhoeddodd y Ceidwadwyr nad ydyn nhw bellach yn cefnogi Craig Williams fel ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr.
Daw wedi iddo gael ei gyhuddo o fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
Mae ymgeisydd arall - Laura Saunders, ymgeisydd y blaid yng Ngogledd Orllewin Bryste - hefyd wedi colli cefnogaeth y blaid.
Daw’r cyhoeddiad wedi i'r ddau gael gwybod eu bod nhw o dan ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo am osod bet ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.
Fe fydd enw'r ddau ymgeisydd ar y papur pleidleisio o hyd, gydag enwebiadau wedi cau ers dechrau'r mis.
Y Blaid Lafur
Mae'r Blaid Lafur wedi gwahardd ymgeisydd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, Kevin Craig, ar ôl canfod fod y Comisiwn Gamblo wedi lansio ymchwiliad iddo.
Dywedodd y llefarydd ar ran y blaid: "Gyda Keir Starmer yn arweinydd, mae gan y Blaid Lafur y safonau uchaf ar gyfer ein hymgeiswyr seneddol, ac mae gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl hyn gan unrhyw blaid sydd yn gobeithio ffurfio llywodraeth.
"Dyna pam rydym ni wedi gweithredu yn sydyn yn yr achos hwn."
Dywedodd Mr Craig ei fod wedi gosod bet ar ei hun i golli yn ei etholaeth.
Mewn datganiad ar X, dywedodd ei fod yn ymddiheuro ac yn cydymffurfio gyda'r ymchwiliad.
"Dwi'n difaru'r hyn dwi wedi gwneud ac yn derbyn goblygiadau’r penderfyniad twp yma," meddai.