Dros bwy fydd pobl Yr Alban yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol?
Dros bwy fydd pobl Yr Alban yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol?
Wedi hanner canrif o fod yn driw i Lafur, yr SNP sydd wedi ennill pleidlais y mwyafrif o bleidleiswyr Glasgow ers Etholiad Cyffredinol 2015 ond be am yr etholiad hwn?
"Three, two, one - let's go!"
Pa blaid felly, sy'n tynnu sylw pobl yn y dosbarth ffitrwydd yma?
How are you feeling about this General Election?
"Oh, very mixed feelings just now about it. I'm really, really...! This is the first time ever I've been torn between who to choose and who to vote for."
Why is that?
"Well, obviously, from Scotland, I'll no be voting Tory. Then the Labour party - just their policies and Starmer seems to flip flop on things."
The Glasgow area traditionally voted Labour. It's now SNP. Why has that changed?
"The young folk are all SNP because they're so fed up with a UK Government. They don't speak for Scotland and never have."
A be am annibyniaeth? Oes yna awydd yma i wthio tua'r cyfeiriad hwnnw?
"I think that Scotland has the right ideas but putting them into practice is something different. So, I don't know. I sit on the fence."
Yr SNP sydd wedi bod yn llywodraethu'r Alban ers 2007 ond mae'r blaid wedi wynebu trafferthion mawr yn ddiweddar. Mae ganddi arweinydd newydd yn John Swinney, yr ail mewn ychydig dros flwyddyn ac mae'r heddlu yn ymchwilio i gyllid y blaid.
Fe enillodd yr SNP chwech o seddi Glasgow yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf ond mae'r blaid yn cydnabod ei bod hi'n wynebu etholiad anodd y tro hwn.
Nod y Blaid Lafur ydy cipio o leia rhai o etholaethau'r ddinas hon a seddi eraill rhwng y fan hyn a Chaeredin.
"Mae pobl yn disgwyl i'r SNP gael tolc."
Mae'r Parchedig John Owain Jones yn byw yn yr Alban ers rhai blynyddoedd.
"Dw i'n credu hefyd fod yna elfen o siomi. Nid yn unig oherwydd eu problemau ariannol nhw sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, dw i'n credu hefyd fod yna elfen o deimlo eu bod nhw wedi bod mewn grym cyhyd a'u bod nhw wedi colli stêm, wedi colli cyfeiriad a dw i'n credu fod hynny wedi bod yn beth cynyddol.
"Synnwn i ddim na fyddan nhw'n cael eu cosbi. Yn bersonol, faswn i'n synnu tasen nhw'n colli eu mwyafrif ond pwy a ŵyr?"
I ba raddau mae annibyniaeth yn bwnc trafod yn yr ymgyrch?
"Dw i'n credu fod pobl wedi mynd i deimlo fod annibyniaeth yn bell i ffwrdd yn yr Alban mewn termau o amser. Falle bod yna rai pobl yn teimlo, pobl sydd wedi bod yn bleidiol iawn i annibyniaeth y bydd yna efallai canlyniad i'w gael sy'n symud yr Alban ychydig bach yn nes at annibyniaeth.
"I'r gwrthwyneb, mi fydd yna bobl sydd yn gweld pethau yn wahanol. Yn gobeithio, efallai y bydd hyn yn gwthio annibyniaeth yn bellach i'r gorffennol os nad i'r ymylon yn llwyr."
"Does dim dwywaith amdani, yr economi a swyddi sy'n peri gofid."
Mae Gwion Rhisiart yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Glasgow.
"Y realiti yw os mae mwy o seddi SNP yn dod trwy yn hytrach na Llafur mae e'n danfon neges nad yw pobl yn hollol gyfforddus gyda'r status quo 'ma o fewn y Deyrnas Unedig. 'Dyn nhw'm yn hapus gyda'r model economaidd yma ble mae llawer o'r ariannu o dan y Ceidwadwyr a'r Toriaid yn mynd i Loegr.
"'Dyn nhw ddim yn hapus gyda hynny."
Mewn deg diwrnod fe fyddwn yn gwybod i ba gyfeiriad mae'r llif gwleidyddol yn mynd yma ac ar draws yr Alban.