Prosiect £16.9m i ddenu ymwelwyr i Bont Gludo Casnewydd 'bron â'i gwblhau'
Mae canolfan ymwelwyr newydd ar gyfer Pont Gludo Casnewydd 'bron â'i chwblhau' er nad oes dyddiad agor wedi ei gyhoeddi eto.
Mae Cyngor Casnewydd yn gobeithio y bydd y ganolfan £16.9 miliwn yn denu rhagor o ymwelwyr i'r bont, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn hanes diwydiannol y ddinas.
Agorodd Pont Gludo Casnewydd ym 1906 ac roedd yn cludo gweithwyr ar draws Afon Wysg i'w gweithleoedd.
Y gred yw ei bod yn un o chwe phont gludo sydd yn parhau i fodoli ar draws y byd.
Mae'r prosiect wedi wynebu nifer o heriau, gan gynnwys costau yn cynyddu o £5m yn 2022.
Mae tywydd gwael hefyd wedi oedi'r gwaith cynnal a chadw ar y bont sydd bron yn 120 oed.
'Dim costau ychwanegol'
Wrth ofyn cwestiwn i Gyngor Dinas Casnewydd, gofynodd y Cyngorydd Chris Reeks am gadarnhad am ddyddiad agor a sicrwydd na fydd yr awdurdod lleol "yn atebol am unrhyw gostau pellach a allai fod wedi codi yn sgil yr oedi wrth orffen y gwaith".
Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Emma Stowell-Corten fod prosiect y ganolfan ymwelwyr "wedi datblygu yn weledol ar y safle gyda'r adeilad ei hun bron â'i gwlbhau".
Ychwanegodd: "Mae swyddogion wedi cynghori nad oes disgwyl unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer y ganolfan ymwelwyr."
Mae dogfennau cyngor yn dangos fod disgwyl i'r ffyrdd sydd wedi eu cau wrth fynedfa'r safle, a ddechreuodd ym Medi 2022, ail-agor ar ddiwedd mis Gorffennaf.
Ond dywedodd y Cynghorydd Stowell-Corten mai dim ond ar ôl yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf y bydd dyddiad agor ar gyfer yr atyniad yn cael ei gyhoeddi.