'Miloedd' yn dal yn wynebu trafferthion teithio o faes awyr Manceinion
Mae miloedd o bobl yn parhau i wynebu trafferthion teithio o faes awyr Manceinion ddydd Llun yn dilyn toriad mewn cyflenwad trydan ddydd Sul.
Ymhlith y rheiny sydd wedi eu heffeithio y mae pobl sy'n aros i hedfan allan o’r maes awyr yn ogystal â’r rheiny sy’n wynebu oedi pellach wedi i’w eiddo fynd ar goll.
Doedd dim hediadau o adeiladau terfynell 1 na 2 am nifer o oriau, gan arwain at giwiau sylweddol a methiannau yn y systemau sy’n gyfrifol am fagiau pobl.
Mae adroddiadau o achosion ble nad oedd bagiau pobl wedi cael eu gosod ar yr awyrennau.
Dywedodd cwmni hedfan Jet2.com fe allai gymryd “peth amser” i fagiau pawb gael eu dychwelyd.
Cafodd tua 70 o hediadau o faes awyr Manceinion – yn ogystal â thua 50 oedd yn hedfan i mewn i’r maes awyr – eu canslo ddydd Sul, yn ôl cwmni dadansoddi data, Cirium.
Mewn datganiad, dywedodd maes awyr Manceinion eu bod am “ymddiheuro i’r rheiny a gafodd eu heffeithio,” a bod disgwyl i hediadau ddydd Llun gael eu cynnal “yn ôl yr arfer.”
Inline Tweet: https://twitter.com/manairport/status/1805151926910067157
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y maes awyr, Chris Woodroofe wrth BBC News fod “nam gyda chebl” wedi achosi gorgyflenwad o bŵer a wnaeth achosi i’r dechnoleg diogelwch a sgrinio bagiau fethu.
Dywedodd y bydd ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.
Roedd nifer o hediadau oedd yn cyrraedd maes awyr Manceinion ddydd Sul hefyd gael eu dargyfeirio i feysydd awyr eraill.
Bu’n rhaid i un awyren Singapore Airlines a oedd yn cyrraedd o Houston yn Texas fynd i Heathrow tra bu’n rhaid i un arall, a ddaeth i mewn o Singapore, lanio yn Gatwick.
Cafodd awyren Etihad Airways o Faes Awyr Rhyngwladol Abu Dhabi Zayed ei dargyfeirio i Faes Awyr Birmingham.