Dymchwel cerfluniau dros farwolaethau plant brodorol yng Nghanada

The Independent

Mae cerfluniau o’r Frenhines Victoria a’r Frenhines Elizabeth II wedi eu dymchwel gan brotestwyr yng Nghanada ar ôl i nifer o feddau plant brodorol Cenhedloedd Cyntaf Canada cael eu darganfod. 

Digwyddodd y protest yn y dalaith Manitoba ar Ddiwrnod Canada ddydd Iau, sef gŵyl genedlaethol i nodi cydffederasiwn y wlad, yn ôl The Independent.

Daw hyn ar ôl i 751 o feddau oedd heb eu cofnodi cael eu darganfod ar safle hen ysgol breswyl yn nhalaith Saskatchewan, yn ogystal â weddillion cyrff 215 o blant brodorol yn cael eu darganfod ar safle hen ysgol breswyl Kamloops yn nhalaith British Columbia.

Darllenwch y stori’n llawn yma.