Taliadau morgeisi i brynwyr cyntaf wedi cynyddu yng Nghymru
Mae taliadau morgeisi misol i brynwyr newydd yng Nghymru ymhlith y mwyaf yn y DU, yn ôl ymchwil.
Erbyn hyn ym Mhrydain gall rhywun sydd newydd brynu eu tŷ cyntaf ddisgwyl talu tua £400 yn fwy'r mis am eu morgais nag oedden nhw bum mlynedd yn ôl.
Mae dadansoddiad gan wefan eiddo Rightmove yn awgrymu bod taliad morgais ar gyfartal i brynwyr cyntaf wedi codi 61% ers yr Etholiad Cyffredinol diwethaf.
Yn 2019 £667 oedd y morgais ar gyfartaledd ond erbyn hyn mae’n £1,075 y mis.
Defnyddiodd Rightmove brisiau cartrefi nodweddiadol, gyda dwy ystafell wely neu lai, ar gyfer yr ymchwil. Cafodd yr ymchwil ei gynnal ledled y DU.
Mae prynwyr tro cyntaf bellach yn wynebu talu £227,757 am gartref ar gyfartaledd.
Yng Nghymru mae prisiau cyfartalog i brynwyr cyntaf wedi codi i £180,458, sef cynnydd o 28%.
Dim ond gogledd orllewin Lloegr (33%) ac ardal Sir Efrog a Humber (30%) oedd yn dangos cynnydd uwch na Chymru ar draws y DU.
Roedd Llundain wedi gweld y cynnydd lleiaf o 6% dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl y cwmni.
Mae prisiau tai Llundain fel arfer yn uwch nag mewn mannau eraill ym Mhrydain.
Ym mhrif ddinas Lloegr mae’r pris ar gyfartaledd ar gyfer eiddo prynwr cyntaf yn ôl dros hanner miliwn o bunnoedd.
Mae cynnydd mewn cyfraddau morgais yn ogystal â phrisiau tai hefyd wedi cael effaith ar gostau morgais misol.
Roedd yr ymchwil yn gwneud tybiaethau amrywiol, gan gynnwys y byddai gan brynwyr cyntaf blaendal o 20%, y byddai cyfnod eu morgais yn parhau am 25 mlynedd a’u bod yn cymryd morgais cyfradd sefydlog pum mlynedd ar gyfradd gyfartalog.
Fe arhosodd cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn sefydlog yr wythnos diwethaf. Ond mae chwyddiant wedi arafu i’w darged o 2% felly mae toriad yn y gyfradd sylfaenol yn debygol o hyd.