Carchar i ddyn o'r Borth am droseddau rhyw yn erbyn plant
Mae dyn o’r Borth wedi’i ddedfrydu i garchar am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Fe gafwyd David Wyn Williams, 43 oed, yn euog o bedwar trosedd rywiol gan gynnwys treisio, yn erbyn dau o blant yr oedd wedi eu targedu yn ystod eu plentyndod.
Yn ystod yr achos, clywodd y llys fod ymchwiliad wedi cychwyn gan swyddog Heddlu Dyfed-Powys, DC Lynette Jones, ar ôl i un dioddefwr ddatgelu troseddau rhyw hanesyddol.
Er gwaethaf natur hanesyddol yr honiadau, a heb unrhyw dystiolaeth DNA, yn dilyn ymholiadau helaeth, canfuwyd dioddefwr arall.
Yn dilyn ymchwiliad cymhleth, gan gynnwys gwaith gyda swyddogion INTERPOL a'r awdurdodau ym Mhortiwgal ar gyfer ymgysylltu â thystion, darparwyd y dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd gyhuddiadau o: Treisio (dau gyhuddiad); Ceisio Treisio; a Gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn (dau gyhuddiad).
Roedd yr achos llys i fod i gael ei glywed yn wreiddiol yn Llys y Goron Abertawe ym mis Ionawr 2024.
Ond cafodd ei ohirio a'i glywed gerbron rheithgor ganol mis Mai.
Ar ddiwedd yr achos, dychwelodd y rheithgor ddedfryd euog mewn dau gyhuddiad o dreisio a dau gyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
Derbyniodd Williams ddedfryd o 16 mlynedd yn y carchar ac mae’n destun Cofrestriad Troseddwr Rhyw a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sam Gregory: “Hoffwn ganmol y dioddefwyr am eu dewrder a’u cryfder trwy gydol yr ymchwiliad hwn.
“Mae Williams yn droseddwr rhyw nad oedd yn ystyried ei ddioddefwyr, a oedd yn blant.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr achos hwn yn ysbrydoliaeth i eraill a allai ofni siarad yn erbyn camdrinwyr.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd rywiol i ddod ymlaen a chael y gefnogaeth yr ydych yn ei haeddu.”