Datgelu cyfrinachau Rhufeinig a chanoloesol Caergybi
Mae archeolegwyr yn dysgu mwy am hanes Rhufeinig Ynys Môn a chyfnodau canoloesol yr ynys wrth gloddio ar safle capel yng Nghaergybi.
Mae'r archeolegwyr yn cloddio yn Eglwys y Bedd, adeilad rhestredig Gradd II ym mynwent Eglwys Sant Cybi, ardal lle safai caer Rufeinig.
Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i weld y gwaith archeolegol mewn diwrnod agored ddydd Sul.
Fe gafodd y cloddio ei ysgogi ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi i drawsnewid ac ymestyn Eglwys y Bedd yn ganolbwynt cymunedol.
Dywedodd yr uwch archeolegydd cynllunio Heneb Jenny Emmet, fod yr ardal yn “safle hanesyddol hynod o bwysig a thrawiadol”.
Fe ddechreuodd y ncloddio tua thair wythnos yn ôl ac mae sawl peth diddorol wedi ymddangos.
"Caer Rufeinig oedd y fynwent yn wreiddiol, felly ‘caer’ Caergybi. ” meddai Jenny.
"Fe’i hadeiladwyd i amddiffyn yr ynys rhag ymosodiadau ar y môr, o Iwerddon yn ôl pob tebyg, ar ddiwedd y drydedd ganrif i ddechrau’r bedwaredd ganrif oed Crist.
“Y gred yw bod Sant Cybi wedi sefydlu cymuned o fynachod yma yn y chweched ganrif, a chredir bod Eglwys y Bedd yn nodi ei fan claddu gwreiddiol.
“Mae’r adeilad presennol yn rhannol ganoloesol, ond mae wedi cael ei ailadeiladu sawl gwaith.
"Roedd ymchwiliadau blaenorol wedi dod o hyd i weddillion waliau capeli canoloesol a ddymchwelwyd, yn ogystal â chyn-fynedfa’r gaer Rufeinig.
“Nod y gwaith presennol yw darganfod mwy am gyfnodau Rhufeinig, canoloesol cynnar a chanoloesol y safle.”
Mae'r cloddio mewn dau gam, ac mae un yn ymchwilio i orllewin y capel, lle mae'r archeolegwyr wedi cloddio i ddod o hyd i waelod y wal Rufeinig.
Mae cerrig sylfaen o dan y capel a'i wal yn ymwneud â chapel canoloesol cynharach.
Mae beddau hanesyddol hefyd wedi’u dadorchuddio, gan gynnwys un o’r 1700au gyda charreg fedd gyfan gyda’r llythrennau R a T.
Mae’r hyn y credir ei fod yn ‘gaead’ neu’n gapfaen ar fedd ar ffurf cist hefyd wedi’i ddarganfod gerllaw.
Mae ail ran, yn y pen dwyreiniol, y mae’r archeolegwyr yn gobeithio darganfod mwy am weddillion y capel, gan gynnwys cangell o’r 14eg ganrif a ddymchwelwyd ar ddiwedd y 1700au.
Arddangosfa
Un nodwedd “gyffrous” i’w harchwilio’n llawn yn dilyn gwaith arbrofol, yw’r garreg drothwy i fynedfa’r gaer Rufeinig.
Mae darganfyddiadau llai amrywiol o ddegawdau diweddarach hefyd wedi cynnwys darnau o grochenwaith, rhai â'u chwedlau eu hunain i'w hadrodd.
Roedd darganfyddiad arall yn cynnwys pibell glai cynnar gyda symbol Seiri Rhyddion.
Ychwanegodd Jenny “Rydym yn mawr obeithio y bydd aelodau’r cyhoedd yn dod draw i’r diwrnod agored i ddysgu am y safle diddorol a thrawiadol hwn sy’n dweud cymaint wrthym am yr ardal a’i datblygiad.
“Mae cyfle i siarad gyda’r archeolegwyr o Heneb: Archaeoleg Gwynedd am eu hymchwil a’r hyn maen nhw wedi’i ddarganfod hyd yn hyn.”
Bydd arddangosfa fechan yn cael ei gosod wrth y fynedfa o Sgwâr Swift a bydd sgyrsiau safle yn cael eu rhoi bob hanner awr.
Mae arddangosfa dros dro hefyd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad ar gyfer y rhai na allant ddod i’r digwyddiad ar y diwrnod.
Ar hyn o bryd nid oes mynediad mewnol i Eglwys Sant Cybi na chapel Eglwys y Bedd gan fod y ddau yn cael eu hadnewyddu.