Newyddion S4C

Cynllun newydd i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn 'perthyn i bawb'

21/06/2024

Cynllun newydd i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn 'perthyn i bawb'

Gwneud yn siwr bod y Gymraeg yn iaith i bawb.

Dyna fwriad cynllun mentora Sbarduno.

Mae'r cynllun yn dechrau heddi i gefnogi myfyrwyr 16-18 oed o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig.

"Mae'r iaith Gymraeg yn amlwg yn perthyn i bawb.

"Felly oedd creu'r cynllun yma roedden ni wir eisiau cyfrannu at y neges yna a rhoi gofod i'r myfyrwyr yma sydd ddim wedi ystyried gyrfa neu addysg bellach neu uwch drwy'r Gymraeg iddyn nhw allu dysgu o bobl profiadol yn eu maes a gweld mae dyfodol iddyn nhw drwy'r Gymraeg.

"Y bwriad oedd cynnig cyfle trwy'r Gymraeg i fyfyrwyr gael model rôl datblygu sgiliau, meithrin hyder er mwyn iddyn nhw wneud y penderfyniadau ar ôl gorffen addysg.

"Dw i'n gallu siarad o safbwynt personol achos mae'r iaith Gymraeg wedi agor drysau i fi.

"Mae'n bwysig bod nhw'n gwybod be ydy'r cyfleoedd a lle gallan nhw gael fwy o gymorth a cefnogaeth.

"Ar hyn o bryd, mae pobl du, brown, Asiaidd o leiafrifoedd ethnig dal yn gorfod cwffio weithiau i gael yr un cyfleoedd.

"Weithiau, 'dy pobl ddim yn sylwi bod 'na hanes hir o hynna'n digwydd a be ydy'r rhesymau pam."

I Leon, sy'n fyfyriwr yn Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd mae pob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn werthfawr.

"Dw i eisiau parhau i astudio trwy'r Gymraeg.

"Nid oes digon o bobl o gefndiroedd lleiafrifol yn gallu siarad Cymraeg.

"Felly dw i'n meddwl rhoi'r cyfle i bobl o'r cefndiroedd yma siarad Cymraeg, mae'n ddefnyddiol.

"Mae Cymraeg ddim yn rhywbeth, chi'n dod i Glantaf, dysgu Cymraeg, mynd i'r brifysgol mewn Lloegr neu rywbeth wedyn anghofio'r Gymraeg a byth siarad Cymraeg eto.

"Ni'n gallu parhau i siarad Cymraeg ar ôl y brifysgol."

Y gobaith yw bydd y cynllun yn cefnogi ac yn annog pobl ifanc o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig wrth anelu am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.