Newyddion S4C

Gŵyl Pride: Busnes o'r Rhondda yn dal i weld gwrthwynebiad

22/06/2024
Rob James

Mae perchennog bar cabaret o’r Rhondda wedi dweud ei fod yn “siomedig” bod rhai pobl yn lleol yn parhau i wrthwynebu'r busnes – yn enwedig o ystyried bod pobl yn teithio o rannau eraill o'r wlad i dreulio noson yno. 

Ag yntau'n perfformio yng Ngŵyl Pride yn y brifddinas ddydd Sadwrn, dywedodd Rob James, 40 oed - sydd â dros 20 mlynedd o brofiad fel canwr a digrifwr - ei fod yn drueni nad oes mwy o gefnogaeth i The Flamingo Cabaret Show Bar yn Nhreorci gan drigolion lleol. 

Ond ers ail-agor yn dilyn y pandemig dros flwyddyn yn ôl mae poteli o wrin a thân gwyllt wedi eu taflu at yr adeilad, meddai.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr James ei fod yn “ddigalon iawn i feddwl fod ‘na bobl leol sydd dal ddim yn ein cefnogi”.

“Pan ‘nathon ail-agor yn gyntaf, roedd ‘na bobl oedd yn taflu poteli (o wrin) at yr adeilad, roedd yna dân gwyllt wedi’u taflu at ddrws yr adeilad, pobl yn taflu pethau o’u ceir.

“Does ‘na ddim cymuned enfawr o bobl hoyw yn y Cymoedd ond ‘dyn ni’n cael pobl yn dod atom – pobl o Gaerdydd a hyd yn oed Birmingham, Manceinion, a’r Alban. 

“Mae’n wallgo’ i feddwl bod lleoliad yn y Cymoedd wedi cael gymaint o effaith,” meddai.

'Cefnogaeth'

Roedd yn rhaid iddyn nhw gau adeg y pandemig, ac yn dilyn cyfnod o orfod symud lleoliad, mae’r tîm bellach wedi dychwelyd i’w cartref gwreiddiol yng nghanol y dref, meddai.

Ond er ei fod yn falch iawn o’r sylw y mae’r bar yn cael ar raddfa genedlaethol, dywedodd ei fod yn teimlo bod ambell i drigolyn lleol yn parhau i wrthwynebu’r busnes. 

“’Dyn ni’n cael problem gydag un person yn aml, a dwi yn meddwl bod hynny oherwydd nad yw’n hoffi pobl hoyw," meddai.

“Pan oeddem ni yma y tro gyntaf roedd o’n cwyno o hyd – ‘nath o ddim cwyno yn y cyfnod pan oedd perchnogion eraill wedi dod i’r adeilad… ond ers i ni ddychwelyd mae wedi dechrau cwyno eto a dwi’n meddwl mai hynny oherwydd natur y busnes,” meddai. 

Dywedodd fod person lleol arall wedi dweud wrth aelod o staff Flamingo’s ei bod yn “fenyw'r eglwys, a dylai hynny fod yn ddigon o esboniad” pan glywodd hi fod y busnes yn dychwelyd. 

Ond mae’r busnes wedi’i gefnogi “gan y rhan fwyaf,” ychwanegodd Rob James. 

Ac mewn cymuned sy'n gartref i nifer o gyn-lowyr, dywedodd bod y gefnogaeth honno yn debyg i’r berthynas a ffurfiodd rhwng glowyr a’r gymuned LHDTC+ adeg streiciau’r glowyr 40 blynedd yn ôl.

“Pan mae’r gemau rhyngwladol ymlaen, ac os ydyn ni’n chwarae’n gartref yng Nghaerdydd, mae ‘na lwyth o bobl yn troi lan ar ôl gem rygbi," meddai.

“Mewn ffordd, mae’r chwaraewyr rygbi yna yn debyg i’r glowyr blynyddoedd yn ôl yn ein cefnogi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.