Un person wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws ysgol ym Maesteg
Mae un person wedi ei anafu mwn gwrthdrawiad rhwng car a bws ysgol ger mynedfa ysgol ym Maesteg.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd am ychydig wedi 15:00 ger Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Mewn datganiad, dywedodd lefarydd: “Digwyddodd gwrthdrawiad rhwng bws a cherbyd y tu allan i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd am 3.10pm ar 20 Mehefin.
"Mae gyrrwr y car wedi’i gludo i’r ysbyty... Ni chafodd unrhyw un oedd ar y bws ysgol unrhyw anafiadau.
"Mae'r ffordd wedi'i chau er mwyn i gerbydau gael eu hadfer. Mae dargyfeiriadau ar waith.”
Dywedodd Gwasanaeth Tân ag Achub De Cymru eu bod wedi anfon chwe cherbyd i leoliad y digwyddiad.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau i'r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd.
Llun: Google