Seren The Traitors yn rhan o ymgyrch y llywodraeth i atal trais yn erbyn menywod
Mae seren realiti o Rondda Cynon Taf wedi dweud ei fod yn “difaru’r” ffordd y mae wedi trin menywod yn y gorffennol, wedi iddo ddioddef o ddiffyg hyder ar ôl bod mewn damwain car ddifrifol.
Dywedodd Andrew Jenkins, a wnaeth serennu ar y rhaglen teledu boblogaidd The Traitors, ei fod yn aml yn teimlo fel ei fod yn edrych fel ‘freak’ ar ôl ei ddamwain car.
Yn wreiddiol o Donysguboriau ger Llantrisant, treuliodd Mr Jenkins bedair wythnos mewn coma wedi’r ddamwain, gan dioddef nifer o greithiau i'w gorff.
Roedd ei edrychiad yn destun pryder iddo, ac roedd hynny wedi effeithio ar sawl perthynas, meddai.
“Ro’n i ofn y byddai pobl yn anffyddlon i fi achos ro’n i’n teimlo’n hyll, gyda creithiau. Pam bo nhw gyda fi? Mae nhw’n fenywod prydferth, a ddim yn mynd i aros ‘da fi. A byse fi’n chwalu popeth.
“Yn edrych nôl, roedd e’n wael. Dyle fi ‘di gweithio ar fy hun cyn neidio mewn i berthynas."
Dywedodd Mr Jenkins ei fod wedi dod i’r arfer o “neidio o berthynas i berthynas” er mwyn ceisio gwella ei hunan hyder.
“Dwi wedi brifo cymaint o fenywod dros y blynyddoedd, hoffen i tasen i’n gallu ymddiheuro iddyn nhw, i newid pethau.
“O’n i ar fin priodi un fenyw, wedi casglu’r ffrog, popeth ‘di cynllunio...Nes i orffen y berthynas. Mae’n rhaid bod hwnna ‘di cael effaith seicologel enfawr arni hi,” meddai.
'Perthynas'
Mae Mr Jenkins bellach yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl, gan gynnwys ei fab, Morgan, sydd yn 23 oed.
Mae’r tad a mab wedi siarad yn gyhoeddus fel rhan o ymgyrch ‘Iawn’ Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o atal trais yn erbyn menywod.
Maen nhw hefyd wedi trafod y pwysigrwydd o siarad yn agored gyda’i gilydd, wedi i Mr Jenkins ddioddef o ganlyniad i berthynas anodd gyda'i dad.
Dywedodd ei fod ef a'i frodyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i fod y chwaraewr rygbi gorau – a hynny er mwyn creu argraff ar eu tad.
Roedd damwain Mr Jenkins wedi golygu nad oedd modd iddo barhau i chwarae rygbi, ag yntau’n pryderu na fyddai gan ei dad unrhyw reswm i'w garu mwyach.
“O’n i’n meddwl mai chware rygbi oedd yr unig ffordd o wneud fy nhad yn falch,” meddai.
“Dwi’n teimlo’n drist ar adegau yn meddwl am y pethau nes i ddweud wrthot ti dros y blynyddoedd,” meddai wrth ei fab, Morgan.
Mewn ymateb, dywedodd Morgan: “Ers i ti ddechrau agor lan, ac yn amlwg dweud dy fod ti’n fy ngharu...bod yn fwy agored gyda dy deimladau, mae’r holl deulu ‘di gwneud yr un peth.”