Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr yn galw ar y llywodraeth i gyhoeddi ‘cynllun manwl’ ar adferiad i Gymru

02/07/2021
NS4C

Mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun “manwl” ar gyfer codi cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae’r blaid yn cyhuddo’r llywodraeth o “wrthod” cyhoeddi manylion, gan ddweud bod llywodraethau yn yr Alban a Lloegr eisoes wedi cyhoeddi eu cynlluniau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maent yn cymryd agwedd ofalus, raddol tuag at ailagor y wlad.

Dywedodd Andrew RT Davies A.S., arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Diolch i waith gwych ein GIG a'n gwirfoddolwyr, rydym wedi gwneud cynnydd rhyfeddol gyda'n rhaglen frechu, gan amddiffyn mwy a mwy o fywydau bob dydd.

“O ystyried y data, mae’n bwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru bellach yn darparu eu cynllun i deuluoedd, ysgolion, gweithwyr a busnesau ar gyfer adfer pob rhyddid a chodi cyfyngiadau yng Nghymru, fel sydd wedi ei weld yn yr Alban a Lloegr.”

Dywed y Ceidwadwyr bod data yn dangos bod niferoedd o bobl sy’n cael eu trin mewn ysbytai am Covid-19 ar eu hisaf ers dechrau’r pandemig.

Ychwanegodd Mr Davies: “Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn sownd yn y syniad o gyfnod clo, ac yn methu newid gêr i adferiad gan ei fod yn golygu mynd i’r afael â’r rhai o’r materion y mae Llafur wedi methu â mynd i’r afael â nhw dros y ddau ddegawd diwethaf.”

‘Agwedd ofalus, raddol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers dechrau'r pandemig rydym wedi cymryd agwedd ofalus, raddol tuag at ailagor. Rydym yn cael ein harwain gan y data a gyflwynir i'r Cabinet, gan y Prif Swyddog Meddygol a'n Cynghorydd Gwyddonol, ac nid gan ddyddiadau artiffisial.

 "Rydym yn adolygu'r rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd a'r cyhoedd ynghylch a allwn lacio'r rhain, yn unol â'n Cynllun Rheoli Coronafeirws."

Llun: Jongleur100

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.