Newyddion S4C

'Parchwch ni': Cwynion lleol am sŵn yng nghanol nos gan gerddwyr i'r Wyddfa

20/06/2024

'Parchwch ni': Cwynion lleol am sŵn yng nghanol nos gan gerddwyr i'r Wyddfa

Mae pobl sy'n byw wrth droed y llwybr mwyaf poblogaidd i gopa'r Wyddfa yn dweud eu bod yn dioddef oherwydd y nifer cynyddol o gerddwyr sy'n cerdded y mynydd yn ystod oriau'r nos.

Mae recordiad CCTV yn gynharach y mis hwn yn dangos dros gant o gerddwyr yn cerdded i lawr Rhes Victoria yn Llanberis am 01.30 y bore, y rhan fwyaf gyda fflachlampau ymlaen, a llawer ohonynt yn siarad yn uchel wrth iddynt wneud eu ffordd at lwybr Llanberis.

Dywed Christine Patton, a recordiodd y cyfan ar ei chamera diogelwch, fod y math yma o weithgarwch wedi dod yn ddigwyddiad cyffredin yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, yn ogystal â phroblemau gydag ymwelwyr yn gyrru i fyny ac i lawr y ffordd yn chwilio am rywle i barcio, gyda rhai cerddwyr yn defnyddio gerddi preswylwyr i fynd i'r toiled.

"Rwy'n hapus iawn fod pobl yn mynd i fyny’r mynydd," meddai Christine.

"Ond byddwch yn dawel, parchwch ni, peidiwch â rhoi fflachlampau ar eich pennau ymlaen nes i chi fynd i fyny'r allt, a meddyliwch, mae yna bobl yn byw yma ar ddiwedd y dydd."

Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn ymwybodol o'r materion a godwyd ac yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ddod o hyd i atebion.

Dywedodd Cyngor Gwynedd: “Rydym yn atgoffa pobl sy’n bwriadu ymweld ag atyniadau poblogaidd – ac unrhyw fudiad neu elusen sy’n trefnu digwyddiad – i fod yn ystyriol o gymunedau lleol ac i gynllunio ymlaen llaw. 

"Mae hyn yn cynnwys peidio ag aflonyddu ar bobl leol, yn enwedig yn hwyr yn y nos; gwirio’r trefniadau parcio cyn ymweld ag unrhyw leoliad.”

Ond mae trigolion yn dadlau bod angen rhoi mesurau pellach ar waith i sicrhau nad yw ymddygiad gwael lleiafrif o ymwelwyr bellach yn tarfu ar eu heddwch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.