Newyddion S4C

Myfyrwyr rhyngwladol werth cannoedd o filiynau i rai o etholaethau Cymru

20/06/2024
Prifysgol

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod myfyrwyr rhyngwladol werth cannoedd o filiynau i rai o etholaethau Cymru bob blwyddyn.

Ond mae’r data, a gomisiynwyd gan London Economics, yn dangos bod y cyfraniad yn amrywio yn sylweddol ar draws y wlad.

Caerdydd oedd yn elwa fwyaf gyda’r pedair etholaeth sy’n rhan o’r brifddinas yn gweld hwb economaidd o £585m rhyngddynt.

Roedd hefyd hwb economaidd sylweddol i Fangor Aberconwy a Ceredigion Preseli, lleoliadau prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Roedd myfyrwyr rhyngwladol yn cynnig hwb economaidd o £73m a £72m i’r etholaethau rheini.

Roedd etholaethau Abertawe hefyd yn gweld heb economaidd o £208m ac etholaethau Casnewydd a Phontypridd lle mae gan Brifysgol De Cymru gampysau yn gweld hwb o £54m a £58m.

Mae Wrecsam yn gweld hwb o £30m o ganlyniad i fyfyrwyr rhyngwladol.

Roedd llawer llai o hwb economaidd i rai etholaethau eraill.

Er gwaethaf eu hagosatrwydd at Fangor dim ond hwb o £8m a £5m oedd i Ddwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn.

Caerffili, Blaenau Gwent a Rhymni ac etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe oedd ar waelod y tal gyda hwb economaidd o £5m yr un yn unig.

Dywedodd Nick Hillman, cyfarwyddwr y felin drafod ar addysg uwch, Hepi, fod y data’n helpu i “egluro safbwynt gwleidyddion unigol a’u pleidiau tuag at fyfyrwyr rhyngwladol”.

“Mae’r data newydd yn syfrdanol. Mewn llond llaw o etholaethau unigol, mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â dros hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn i mewn bob blwyddyn.

“Ar ben arall y raddfa, mae tua 100 o etholaethau lle mae myfyrwyr rhyngwladol yn werth llai na £10 miliwn.”

‘Budd’

Ar draws y DU, mae’r data yn dangos bod myfyrwyr rhyngwladol yn werth hanner biliwn o bunnoedd mewn buddion economaidd mewn tair etholaeth - Leeds Central a Headingley, Sheffield Central, a Newcastle upon Tyne Central and West.

Mae Holborn a St Pancras yng nghanol Llundain, y sedd lle mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer yn sefyll, yn y 10 etholaeth uchaf am gyfraniad economaidd, gyda buddion gwerth £438 miliwn.

Mae Clacton yn Essex, y mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage yn gobeithio ei hennill, yn y 15 etholaeth isaf, gyda buddion economaidd gwerth dim ond £5 miliwn.

Mae cyfanswm buddion myfyrwyr rhyngwladol i’r DU ar gyfer yr 20 etholaeth uchaf gyda’i gilydd yn £8.3 biliwn, tra bod y buddion ar gyfer yr 20 etholaeth isaf yn dod i gyfanswm o £88 miliwn yn unig, yn ôl y data newydd.

Mae Richmond and Northallerton yng Ngogledd Swydd Efrog, y mae arweinydd y Ceidwadwyr Rishi Sunak yn ymladd i’w gadw, yn isel i lawr y rhestr yn rhif 567, gyda buddion economaidd o £8 miliwn.

Dywedodd James Cannings, uwch ymgynghorydd economaidd London Economics: “Rydym yn gobeithio y bydd y llywodraeth newydd, a phob AS sydd newydd ei ethol ym mhob etholaeth, yn talu sylw manwl i’r canfyddiadau hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.