
'Anhygoel': Merch o Gasnewydd yn gwylio Taylor Swift wyth mis wedi triniaeth canser
Mae merch yn ei harddegau welodd Taylor Swift yng Nghaerdydd union wyth mis wedi iddi ddechrau ei chyfnod olaf o driniaeth cimotherapi wedi dweud ei fod yn "arbennig" ei gwylio'n canu'n fyw.
Roedd Isobel Dockings, 17 o Gasnewydd yn gwrando ar Taylor Swift yn ystod ei thriniaeth canser yn yr ysbyty. Cafodd 14 rownd o gimotherapi am Ewing sarcoma, math o ganser yr asgwrn.
Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA bod ganddi bosteri o'r gantores o America yn ei stafell yn yr ysbyty.
"Pan oeddwn i'n derbyn triniaeth, roeddwn i'n siarad gyda'r nyrsys am Taylor. Roedd gweld hi'n canu'r holl ganeuon yn fyw yn cwblhau'r cylch rhywsut, o fod wedi gwrando arni gyda'r nyrsus.

"Roedd gen i bosteri lan ger fy ngwely yn yr ysbyty felly dwi'n meddwl bod pawb yn gwybod fy mod i'n caru Taylor, felly roedd pawb yn hapus i mi ar ôl darganfod bod gen i docynnau.
"Roeddwn i yn yr ysbyty am rai dyddiau felly roedd cael y posteri yno'n rhoi teimlad cartrefol i mi."
'Deigryn yn fy llygaid'
Ychwanegodd Isabel bod gweld Taylor Swift yn canu'n fyw "ddim yn teimlo'n go iawn".
"Roedd eithaf tipyn o'r nyrsys yn y sioe hefyd. Roedd gan nifer ohonyn nhw docynnau a roedden ni'n siarad am ein gwisgoedd a chreu breichledi gyda'n gilydd felly roedd hynny'n arbennig.
"Dwi am fynd yn ôl i'r ward wythnos nesaf oherwydd maen nhw i gyd wedi bod mor gyffrous fy mod i wedi cael cyfle i'w gweld hi."

Rhannodd Isabel y newyddion y byddai'n gwylio Taylor Swift arlein yn dilyn cimotherapi, a gafodd ei neges ei weld 94,000 gwaith.
Yn dilyn ei diagnosis, a ddisgrifiodd fel un "heriol" roedd hi yn ei dagrau wrth dderbyn cefnogaeth gan 'Swifties' eraill.
"Roedd pawb mor garedig roedd gen i ddeigryn yn fy llygaid." meddai.
"Dwi'n cymryd llawer o bethau positif o fy nhriniaeth achos cyn i mi dderbyn diagnosis, roeddwn i mor swil, ond nawr dwi'n fwy agored ac yn barod i wneud bob dim.
"Roedd yn sicr yn heriol ond dwi wedi cael canlyniad positif."
Prif lun: Isabel Dockings/PA