Heddlu'n ymchwilio wedi honiadau fod dyn wedi aflonyddu ar forlo
19/06/2024
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth wedi honiadau i ddyn aflonyddu ar forlo ger Llandudno.
Mae fideo sydd wedi ei rhannu ar Youtube yn ymddangos fel petai'n dangos dyn yn taflu carreg at y morlo, sy'n ymddangos fel petai mewn trafferthion, ar draeth ger y Gogarth. Mae'r heddlu'n credu bod y fideo wedi ei gymryd ar ddydd Mawrth Mehefin 18.
Fel rhan o'u hymchwiliad, mae'r heddlu'n awyddus i siarad â'r dyn ar flaen y llun. Mae nhw'n gofyn i unrhyw un sydd yn ei adnabod, neu sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth, i gysylltu â nhw ar unwaith.