Bachgen 15 oed wedi marw wrth geisio achub ffrind mewn chwarel

Mae cwêst wedi clywed bod bachgen yn ei arddegau wnaeth gwympo mewn i chwarel wedi marw ar ôl ceisio achub ffrind.
Bu farw Myron Davies, 15 oed, wedi’r digwyddiad yn chwarel Abersychan, ger Pont-y-pŵl, ar 6 Gorffennaf, 2022.
Yn ystod yr un digwyddiad, fe wnaeth merch 14 oed hefyd gwympo i mewn i’r chwarel. Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, mewn cyflwr difrifol.
Fe wnaeth y cwêst, gafodd ei gynnal yn Llys y Crwner Casnewydd ddydd Mercher, glywed bod y digwyddiad yn “ddamwain drasig” wedi i Myron geisio achub ei ffrind oedd wedi syrthio oddi ar ochr y chwarel.
Dywedodd y Crwner Caroline Saunders nad oedd yna dystiolaeth o drydydd parti yn ymwneud â’r digwyddiad, er gwaethaf sibrydion ar y pryd.
Fe wnaeth hi hefyd ddod i’r casgliad nad oedd unrhyw awgrym bod Myron wedi bwriadu niweidio'i hun neu gymryd ei fywyd.
Cafodd y Ditectif Brif Arolygydd Leigh Holborn ei alw fel tyst yn ystod y cwêst.
Fe wnaeth nodi nad oedd yno yn y digwyddiad, ond ei fod yn gyfrifol am yr ymateb.
Lleoliad poblogaidd
Dywedodd fod ymchwiliadau wedi darganfod bod y chwarel yn lleoliad lle’r oedd pobl ifanc yn ymweld ag o'n aml i fwynhau’r golygfeydd yno.
Erbyn hyn, dywedodd fod ffensys wedi cael eu codi yn yr ardal i gyfyngu mynediad.
Pan wnaeth Ms Saunders ofyn iddo beth oedd yn ei dybio oedd wedi digwydd, dywedodd fod tystiolaeth yn awgrymu bod un person “ychydig yn is na’r llall”.
Ychwanegodd: “O’r disgrifiad, byddai’n ymddangos i mi fod y ferch yn ei harddegau ar ochr ychydig yn is, fe wnaeth hi lithro, ac fe wnaeth hi fynd lawr… a Myron yn ei dilyn. Mae yna feddwl bod y ferch wedi llithro a bod Myron wedi mynd i geisio ei helpu - ymateb greddfol pan fod rhywun yn baglu o’ch blaen.”
Dywedodd bod cwymp y ferch wedi cael ei atal gan frigau, ond nid oedd hyn yn wir am gwymp Myron.
Dywedodd, ar ôl siarad gyda theulu, ffrindiau ac ysgol Myron, ei fod yn “fachgen hapus” ac “nid oedd pryderon iechyd meddwl wedi cael eu codi”.
Fe wnaeth Ms Saunders ddod i’r casgliad bod marwolaeth Myron wedi cael ei achosi gan “ddamwain drasig”. Fe wnaeth hi gadarnhau mai achos meddygol ei farwolaeth oedd anafiadau lluosog wedi’u hachosi gan gwymp.
Dywedodd: “Roedd Myron wedi ymateb yn reddfol i’w hachub gan gwympo ei hun yn y broses. Mae ymyl y chwarel yn lle peryglus i fod. Mae plant yn gallu bod yn ddall i’r peryglon hyn a chymryd mwy o risgiau nag oedolion.”