Newyddion S4C

Lansio ymgyrch i annog mwy o Gymry i drafod colli babanod

ITV Cymru 19/06/2024
stori ITV.png

Gall colli babi yn ystod beichiogrwydd neu’n gynnar gael effaith ddofn ar bobl, ac yn aml mae'n gadael teuluoedd yn teimlo'n unig ac wedi’u hynysu.

Fodd bynnag, dywedodd chwarter o bobl Cymru oedd wedi cael eu heffeithio’n bersonol eu bod nhw’n teimlo nad oedd ots amdanyn nhw neu’u babi, ar ôl i neb ofyn iddyn nhw beth oedd wedi digwydd.

Mae ymgyrch bellach wedi’i lansio i gael mwy o bobl i siarad am yr effaith ar deuluoedd a’r stigma.

Fe wnaeth yr elusen y tu ôl i hyn, Sands, lansio ei chynllun "Finding the Words" i helpu pobl i deimlo'n fwy hyderus i ddechrau'r sgyrsiau pwysig hyn.

Roedd meibion Ruth Mason, George a Henry, yn farw-anedig ym mis Awst 2018.

Dywedodd Ruth wrth ITV Cymru Wales bod hi'n "anodd dod o hyd i'r geiriau" ar ôl colli babi.

Fe gafodd hi gefnogaeth drwy Sands a daeth yn gyfaill gwirfoddol i Merthyr Sands, grŵp cymorth i rieni mewn profedigaeth yn ardal Merthyr Tudful..

Dywedodd Ruth fod dweud y peth iawn wrth bobl sydd wedi colli babi yn bwysig iawn.

“Mae’n ymwneud â chefnogi pobl i wybod beth i’w ddweud i wneud i bobl deimlo’n llai bregus ac unig ac ynysig yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd iawn.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol yr elusen, Clea Hamer nad oes modd gwella'r sefyllfa ond bod yn gefn i'r rhai sydd wedi colli babi.

“Mae'n bwysig iawn cydnabod os y’ch chi'n teimlo'n bryderus neu’n poeni bod dweud pethau fel: 'Mae'n ddrwg gen i, dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud' mewn gwirionedd yn well na dweud dim byd o gwbl.

"Yn aml, mae gofyn am y babi, gofyn a yw'r babi wedi cael enw, gofyn sut maen nhw’n ymdopi a gofyn a allwch chi helpu, oll yn bethau sy'n estyn allan i ddangos i'r person hwnnw eich bod yn meddwl amdanyn nhw."

Ei chyngor yw peidio ceisio lleihau'r galar.

“Un o'r pethau mwyaf niweidiol y gall pobl ei ddweud, ac y mae rhieni'n dweud wrthym amdano, yw dechrau brawddegau gydag 'o leiaf'. Mae'n lleihau'r pwysigrwydd ac rwy'n meddwl bod pobl yn ceisio ei wneud oherwydd bod pobl yn ceisio gwneud iddo deimlo’n llai drwg, neu er mwyn teimlo'n fwy cyfforddus eu hunain.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.