Newyddion S4C

Hybu Cig Cymru: Galwadau i'r llywodraeth ymyrryd yn dilyn honiadau o fwlio

Newyddion S4C 18/06/2024
Hybu Cig Cymru

Mae'r corff sydd yn hyrwyddo cig coch Cymreig wedi ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig.

Yn ôl Cymdeithas Annibynnol Cyflenwyr Cig, mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i wneud yn siŵr bod Hybu Cig Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn.

Dywed Hybu Cig Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n ddiflino i hyrwyddo'r diwydiant cig coch yng Nghymru, drwy'r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd."

Datgelodd rhaglen Newyddion S4C ym mis Chwefror eleni bod chwe aelod o staff y corff wedi cwyno, ar wahân, eu bod nhw'n cael eu bwlio.

Fe ysgrifennodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llŷr Gruffydd, at y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd, Lesley Griffiths, i alw arni i ymyrryd, gan fynegi pryderon am "ddiwylliant" y corff.

Wrth ymateb, dywedodd y llywodraeth nad oed yn bosib iddyn nhw wneud sylw ar faterion staffio mewnol corff hyd braich.

Mae bellach wedi dod i'r amlwg i ddau o gyfarwyddwyr Hybu Cig Cymru ymddiswyddo'r wythnos ddiwethaf. Does dim awgrym eu bod nhw'n ymwneud a'r honiadau o fwlio.

A phrynhawn ddydd Mawrth, fe gadarnhaodd Hybu Cig Cymru bod y Prif Weithredwr, Gwyn Howells, wedi ymddiswyddo ar ôl bod i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd. Does dim awgrym ei fod e, chwaith, yn ymwneud a'r honiadau fwlio.

Dywedodd John Thorley, Cadeirydd Cymdeithas Annibynnol Cyflenwyr Cig (AIMS):  “Tan yn ddiweddar, roedd Hybu Cig Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y diwydiant cig Cymreig.

"Mae nawr yn siop siafins eilradd. Rydyn ni’n poeni bod aelodau bwrdd a chyfarwyddwyr yn gadael oherwydd arweiniad wael.”

'Baner coch'

Ysgrifennodd Llŷr Gruffydd at yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies heddiw, gan alw o'r newydd am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae wedi cyrraedd y pwynt erbyn hyn lle mae cyfarwyddwyr yn ymddiswyddo. I fi, mae honna yn faner goch reit fawr."

"Mi ddylai'r Gweinidog fod yn rhannu fy nghonsyrn i ac eisiau sicrhau ei hun bod y sefyllfa yn cael ei ddelio ag e mewn modd cywir."

Dywedodd James Evans AS, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig bod "diwylliant y corff yn peri pryder".

Mae rhai o fewn i'r diwydiant amaeth hefyd wedi lleisio pryder am Hybu Cig Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae angen tryloywder gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ymwybodol o broblemau o fewn y sefydliad ers blwyddyn.

"Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy’n apwyntio Cadeirydd ac aelodau bwrdd HCC ac fel corff cyhoeddus ei gyfrifoldeb yw ail-adeiladu hyder y diwydiant amaeth yng ngwaith Hybu Cig Cymru i’r dyfodol."

Fe wnaeth Hybu Cig Cymru ymateb drwy ddweud eu bod nhw'n "dal i barhau a'u gwaith pwysig" a bod cynlluniau "wedi hen ddechrau" ar gyfer y Sioe Frenhinol fis nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.