Newyddion S4C

Taylor Swift: Faint o hwb fydd ei chyngerdd i economi Caerdydd?

18/06/2024

Taylor Swift: Faint o hwb fydd ei chyngerdd i economi Caerdydd?

Welcome to the Eras Tour.

Ydy, mae Taylor Swift ar ei ffordd i Gaerdydd.

Nos yfory fydd rhai sydd wedi cael gafael ar docyn yn dyst i'w pherfformiad cyntaf yn Stadiwm y Principality fel rhan o'i thaith Eras.

Fis dwethaf, cyhoeddodd Barclays y byddai disgwyl i'r daith roi hwb o bron i £1 biliwn i wariant y Deyrnas Unedig eleni gyda disgwyl i bobl wario £850 yr un ar gyfartaledd ar deithio llety, gwisgoedd a thocynnau.

Sut effaith caiff hi ar y brifddinas?

"Mae'r amcangyfrif yn dangos mai tua £64 miliwn fydd gwerth hynny... "..i Gaerdydd, sy'n swm allweddol.

"O ran faint o arian ychwanegol yw hynny, mae'n anodd dweud.

"Wrth gwrs, wrth feddwl am yr arian bydd y daith yn gwneud... "..bydd swm sylweddol yn mynd i Taylor Swift ac arian yn gadael.

"Bydd pobl yn gwario'n lleol a bydd hynny'n golygu bod busnesau bach... "..a busnesau lleol yng Nghaerdydd yn elwa wrth hynny."

Nid yn unig yn y brifddinas mae'r effaith economaidd i'w gweld.

Yn Ynys Môn, mae Abbi a'i mam hefyd wedi manteisio ar boblogrwydd Taylor Swift ac wedi trawsnewid adran gyfan o'u siop i werthu ei nwyddau.

"Mae'r Eras Tour yn massive.

"Pwy sydd ddim isio bach o Taylor Swift?

"Dw i heb ddod ar draws fandom sydd gymaint obsessed.

"Breichledi, necklaces, t-shirts - maen nhw isio popeth Taylor Swift. "Mae popeth yn mynd yn sydyn."

Mae'r gantores yn parhau i adael ei marc yn fyd-eang wedi sawl gwobr a thorri record yn seremoni'r Grammy's eleni.

Beth sy'n ei gwneud hi'n mor boblogaidd i gymaint o bobl?

"Mae albyms hi wedi datblygu dros y blynyddoedd. "Mae gyda hi 11 albwm erbyn nawr a pob un yn hollol wahanol.

"Mae hi'n newid gyda'r amser a beth sy'n gweithio i hi.

"Mae hi'n gwybod ei hun yn rili dda.

"Mae'n gallu siarad â phobl trwy gerddoriaeth."

Dylanwad ei cherddoriaeth sy'n denu'r cannoedd felly a rhai o'i chefnogwyr wedi bod ers pump i gael gafael ar nwyddau.

"Dw i wedi caru Taylor Swift ers o'n i'n fach a'i cherddoriaeth.

"Dw i'n meddwl mae sgwennu hi yn amazing.

"Dw i erioed wedi gweld hi nag unrhyw un ond hi yw'r unig un... "..dw i eisiau gweld."

"Dw i'n hoffi Taylor Swift achos mae'n wych. "Fy hoff gan yw Look What You Made Me Do achos mae'n fendigedig."

Gyda 'chydig dros 24 awr i fynd mae'r cynnwrf o gael un o sêr mwya'r byd yn y brifddinas i'w weld yn barod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.