Newyddion S4C

Reform UK yn lansio eu 'cytundeb' etholiadol ym Merthyr

18/06/2024

Reform UK yn lansio eu 'cytundeb' etholiadol ym Merthyr

Ers cael ei sefydlu, mae Reform wedi treulio lot o amser yn beirniadu'r blaid Doriaidd er mwyn ceisio denu pleidleisiau.

Heddi, beth bynnag, fe ddaeth Reform i Ferthyr i un o gadarnleoedd y Blaid Lafur, a hynny'n fwriadol.

"Guess who's back? Back again!" Dadl y blaid yw bod Cymru, sydd wedi bod o dan Lywodraeth Lafur ers chwarter canrif yn enghraifft o sut fyddai'r DU yn cael ei rhedeg pe bai Syr Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog.

"Here's the point about things going so badly wrong in Wales... "..over 25 years.

"There's been no clear, consistent opposition voice. "Frankly the Conservatives in the Senedd have been feeble... "..to say the very least.

"Wales really gives us the perfect example of what I'm talking about.

"We need strong opposition that can mobilise people... "..in very large numbers."

Ymhlith addewidion y blaid mae rhewi mewnfudo diangen i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus cael gwared ar restrau aros drwy dorri ar wastraff gweinyddol a chynyddu trothwy'r dreth incwm i £20,000 y flwyddyn fel bod 'na werth i bobl weithio.

Maen nhw hefyd am gynyddu faint sy'n cael ei wario ar amddiffyn a chael gwared ar gymorthdaliadau net zero.

"Mae nifer o'r polisiau yn amhosib i'w cyflawni.

"Pethe fel torri rhestrau aros ysbyty i sero, sgrapio mewnfudo.

"Mae hyn oherwydd bod Farage ddim yn disgwyl gorfod llywodraethu... "..ond mae'n disgwyl medru manteisio ar y momentwm diweddar... "..i ddadlau y bydd ei blaid e yn wrthblaid mwy effeithiol."

Mae Reform yn dweud eu bod nhw'n disgwyl i Lafur ennill mis nesa.

Os bydd hynny'n digwydd, eu dadl yw bod angen carfan gryf o aelodau Reform i ffrwyno'r Llywodraeth o dan Syr Keir Starmer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.