Newyddion S4C

Dwyn peiriant arian twll yn y wal o du allan i siop ym Mhowys

18/06/2024
Co-op Talgarth

Fe gafodd peiriant arian twll yn y wal ei ddwyn o adeilad siop ym Mhowys yn ystod oriau man y bore ddydd Mawrth. 

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am achos o ladrata o siop Co-op ar Ffordd y Gelli Gandryll yn Nhalgarth am tua 03.00 . 

Cafodd y peiriant ATM ei lusgo oddi ar wal yr adeilad rhwng 02.55 a 03.05 medd y llu. 

Mae’r heddlu bellach wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i’r peiriant – yn ogystal â thri cherbyd oedd hefyd wedi cael eu dwyn. 

Dyw’r heddlu heb arestio unrhyw un mewn cysylltiad â’r digwyddiad hyd yma. 

Mae swyddogion yr heddlu, gan gynnwys swyddogion arbenigol, yn dal i fod yn bresennol yn yr ardal wrth i’w ymchwiliad barhau. 

Maen nhw’n annog unrhyw un a allai helpu’r llu gyda rhagor o wybodaeth i gysylltu ar unwaith. 

Llun: Tyron Reid/Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.