Dod o hyd i dri o blant aeth ar goll ar ôl ymweld â pharc antur Thorpe Park
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i dri o blant aeth ar goll wedi iddyn nhw dreulio’r diwrnod mewn parc antur yn ne ddwyrain Lloegr.
Roedd y tri - sef merch 14 oed o’r enw Khandi, merch naw oed o'r enw Amelia, a bachgen saith oed o'r enw Malik wedi bod yn Thorpe Park ddydd Llun, ond fe aeth y tri ar goll am 19.00 medd Heddlu Surrey.
Fe gafwyd hyd i'r tri yn Llundain brynhawn dydd Mawrth yn iach a diogel.
Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Trevor Struthers: “Rydym yn gwerthfawrogi’r pryder a achoswyd gan y digwyddiad hwn, yn enwedig o ystyried oedran y plant a’r ffaith eu bod ar goll dros nos.
“Mae ein swyddogion a’n staff wedi gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i’r tri ohonyn nhw ac rydyn ni i gyd yn falch iawn eu bod nhw wedi cael eu darganfod yn ddiogel.
"Rydym wedi derbyn llawer iawn o wybodaeth a chefnogaeth gan y cyhoedd a'r cyfryngau a hoffem ddiolch i bawb a ddarparodd wybodaeth ac a rannodd ein hapêl."