Apêl am dystion wedi ymosodiad honedig ger Clwb Golff Nefyn
18/06/2024
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad honedig ger cwrs golff Nefyn ar ddechrau'r mis.
Roedd y digwyddiad, am tua 20:30 ar nos Sadwrn 1 Mehefin, yn cynnwys dyn a dynes.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Ers hynny, mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau.
Y gred yw bod dau ddyn wedi gweld y digwyddiad ac wedi ymyrryd ar y pryd.
Mae'r heddlu bellach yn gofyn i'r dynion hynny gysylltu gyda nhw, neu unrhyw un sydd yn adnabod y ddau ddyn dan sylw.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth allai eu helpu gyda'u hymholiadau i gysylltu dros y we neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 24000491457.