Newyddion S4C

Pleidlais diffyg hyder Gething yn 'weithred wleidyddol' gan y Ceidwadwyr medd Jo Stevens

Y Byd yn ei Le 18/06/2024

Pleidlais diffyg hyder Gething yn 'weithred wleidyddol' gan y Ceidwadwyr medd Jo Stevens

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Jo Stevens, wedi cyhuddo'r Blaid Geidwadol o gyflawni 'gweithred wleidyddol' trwy gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething.

Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le nos Lun, dywedodd Ms Stevens bod ganddi "hyder llwyr" yn Vaughan Gething er iddo golli'r bleidlais honno.

"Roedd hwn yn weithred wleidyddol gan y Ceidwadwyr, roedd yn bleidlais yn y Senedd a gafodd ei gynorthwyo gan Blaid Cymru.

"Dyw e ddim wedi torri unrhyw un o reolau'r Senedd. Mae Andrew RT Davies wedi sefyll ar lawr y Senedd a dweud bod Vaughan Gething heb dorri unrhyw reolau," meddai. 

"Mae gen i hyder llwyr yn Vaughan Gething. Mae'n parhau i fwrw ymlaen gyda'i swydd. Ers iddo ddod yn Brif Weinidog mae wedi datrys yr anghydfod gyda doctoriaid, mae wedi adolygu'r cynllun ffermio. Mae e hefyd wedi cynnal adolygiad o'r polisi 20mya. Mae'n gwrando ar bobl."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru am ymateb.

Ar ôl colli'r bleidlais o ddiffyg hyder ar 5 Mehefin fe fynnodd Vaughan Gething na fyddai yn ymddiswyddo.

Fe gollodd Mr Gething y bleidlais o 29 pleidlais i 27, oherwydd bod dau aelod Llafur yn absennol.

Wedi'r bleidlais, dywedodd: "Dydw i erioed fel gweinidog wedi gwneud dewis er fy mudd fy hun, nag er mwyn elw ariannol."

Dywedodd ei fod wedi dilyn y rheolau, a'i fod wedi ateb "pob cwestiwn" am y rhoddion y derbyniodd ar gyfer ei ymgyrch.

Etholiad Cyffredinol

Fe ddywedodd Ms Stevens bod y blaid yn canolbwyntio ar yr Etholiad Cyffredinol a fydd yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

"Yr hyn rydym yn canolbwyntio arno ac mae pawb yn canolbwyntio arno yw'r Etholiad Cyffredinol. Dyw Vaughan Gething ddim yn ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol.

"Mae'r Etholiad Cyffredinol ar gyfer Senedd y DU ac er mwyn ethol ASau ar draws Cymru. Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn mynd allan ar 4 Gorffennaf a phleidleisio, a dwi'n gobeithio bydd nifer ohonynt yn pleidleisio dros Lafur."

Fe allwch chi wylio rhaglen llawn Y Byd yn ei Le ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.