Newyddion S4C

Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu cwestiynau ynglŷn â hawlio treuliau

17/06/2024

Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu cwestiynau ynglŷn â hawlio treuliau

Laura Ann Jones, Gweinidog yng Nghabinet Cysgodol y Ceidwadwyr.

Wyneb blaenllaw yn lansiad ymgyrch etholiadol y blaid yng Nghymru bythefnos yn ôl.

Roedd eisoes yn destun ymchwiliad ynglŷn â hawlio costau gan Heddlu De Cymru wedi iddi ddod i'r amlwg bod y Comisiynydd Safonau sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion am aelodau'r Senedd wedi pasio manylion 'mlaen i'r Heddlu fel rhan o'i ymchwiliad i honiadau am y ffordd na'th hi ddelio a chwyn o fwlio.

Dw i wedi gweld negeseuon testun o ffôn Laura Ann Jones sy'n gofyn i aelod staff ychwanegu costau at ei threuliau.

Roedd un neges yn gofyn, 'Pan ti'n neud y peth petrol gwna mwy na wnes i.

Ychwanega petha plis'.

'Fel ymweld â swyddfa'r etholaeth?'

Yr ateb oedd 'Ie, stwff fel 'na'.

Mewn negeseuon eraill mae'n ymddangos bod staff yn gofyn a ddylen nhw hawlio treuliau ar gyfer pan roedd y gwleidydd adre'n sâl.

Doedd dim ateb uniongyrchol i'r cwestiwn ond pan yrrwyd tabl o dreuliau i'w hawlio at Miss Jones yr ateb a ddaeth 'Os galli di wastad neud mwy na ma'n ddeud, byddai hynny'n ffab'.

Dydyn ni heb weld cyd-destun llawn y sgwrs WhatsApp a gallwn ni'm gwirio a ydy'r negeseuon yn cynrychioli'r sgwrs.

Ond mi ydyn ni'n gwybod bod rhaid i unrhyw dreuliau gael eu cymeradwyo gan yr aelod etholedig ei hunain.

Yn yr achos yma, Laura Ann Jones.

Mae datganiad gan ei chyfreithwyr yn dweud y byddai'n amhriodol iddi wneud sylwadau tra bod yr heddlu'n ymchwilio cyn ychwanegu bod Miss Jones yn fodlon bod yr honiadau o unrhyw weithred amhriodol o gwmpas y treuliau wedi eu camddehongli'n llwyr.

Mae'r datganiad hefyd yn dweud nad oes ganddi broblem gyda'r BBC na'i ffynonellau yn rhoi'r honiadau hyn o flaen yr Heddlu gan roi'r cyfle iddi ymateb yn ffurfiol fel rhan o'r ymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.