Trefor: Carcharu dyn am roi ei dŷ ei hun ar dân
Mae dyn 51 oed o Drefor yng Ngwynedd wedi cael ei garcharu ar ôl rhoi ei gartref ei hun ar dân ac yna gadael yr adeilad.
Ymddangosodd Marcus Rahilly, o Gae Garw yn Nhrefor, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun 17 Mehefin ar ôl i'r llys ei gael yn euog yn flaenorol o losgi bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Cafodd ei garcharu am dair blynedd a chwe mis.
Ychydig ar ôl 03:00 ar 11 Hydref 2023, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn tŷ ar Gae Garw.
Roedd Rahilly, a oedd yn denant yn y tŷ, wedi rhoi dillad mewn ystafell wely ar dân cyn gadael yr adeilad.
Llai na dau funud yn ddiweddarach, dechreuodd y larwm tân ganu. Clywodd cymydog y larwm ac aeth i mewn a darganfod bod y tân yn lledaenu.
Fe wnaeth hi rybuddio’r gwasanaeth tân, ac roeddwn nhw'n gallu rheoli’r tân a’i atal rhag lledaenu drwy’r stryd gyfan o dai, gan amddiffyn trigolion eraill oedd yn byw yno, medden nhw.
'Dewrder'
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jamie Atkinson o Heddlu Gogledd Cymru y gallai'r tân fod wedi achosi difrod difrifol pe bai wedi lledaenu'n gyflym.
“’Roedd hwn yn ddigwyddiad byrbwyll a pheryglus, lle cafodd dân bwriadol ei gynnau ynghanol rhes o dai," meddai.
“Oni bai am ddewrder a gweithrediadau cyflym cymydog cyfagos, buasai rhywun wedi’u niweidio.
“Pe bai’r tân wedi cael ei adael yn hirach, buasai’r canlyniad wedi bod yn llawer mwy difrifol.”
Llun: Heddlu Gogledd Cymru