Newyddion S4C

Apêl o'r newydd am Gymro aeth ar goll yng Ngwlad Groeg bum mlynedd yn ôl

17/06/2024
John Tossell

Mae teulu dyn 78 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, aeth ar goll ar ynys Zante yng Ngwlad Groeg wedi apelio o'r newydd am wybodaeth, bum mlynedd ers iddo gael ei weld ddiwethaf.

Cafodd John Tossell, oedd ar wyliau gyda'i bartner ym mhentref Argassi ei weld ddiwethaf ar 17 Mehefin 2019.

Roedd yn teithio tuag at fynachlog ar Fynydd Skopos.

Er gwaethaf ymgyrch chwilio gan yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg, ac yn ddiweddarach gan Dîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau, nid yw wedi cael ei ddarganfod.

Mae ei deulu wedi apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal i feddwl a welsant John, oedd yn gwisgo crys glas cyn iddo fynd ar goll.

Maen nhw hefyd wedi gofyn i bobl oedd ar eu gwyliau i edrych yn ofalus ar eu lluniau teuluol i weld a oedd Mr Tossell yn y cefndir.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan awdurdodau yng Ngwlad Groeg, ond os oes gan unrhyw un wybodaeth a allai fod o gymorth mae Heddlu De Cymru yn gofyn iddynt gysylltu gan ddyfynnu cyfeirnod 1900243231.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.