Newyddion S4C

O Galiffornia i Gaerdydd: Teithio o ben draw'r byd i wrando ar Taylor Swift

17/06/2024

O Galiffornia i Gaerdydd: Teithio o ben draw'r byd i wrando ar Taylor Swift

Mae cannoedd o 'Swifties' wedi cyrraedd Caerdydd yn barod cyn i Taylor Swift berfformio ym mhrifddinas Cymru am y tro cyntaf yr wythnos hon.

Mae rhai wedi teithio o mor bell â'r UDA i wrando ar yr artist yn canu yng Nghymru.

Fel rhan o'i thaith Eras, bydd y gantores Americanaidd yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Fawrth.

Fore dydd Llun roedd canoedd o'i chefnogwyr wedi heidio yn barod i brynnu nwyddau Taylor Swift mewn stondin tu allan i'r stadiwm.

Mae disgwyl i hyd at 70,000 o 'Swifties' [dilynwyr Swift] heidio i'r cyngerdd i'w gweld.

Mae'r gantores fyd-enwog eisoes wedi perfformio yng Nghaeredin a Lerpwl am dair noson o'r bron yn y ddwy ddinas.

Image
Kim Kara Bryan
Kim, Kara a Brian Dobrzensky

Mae Kim, Brian a Kara Dobrzensky wedi teithio i Gaerdydd o ddinas Martinez yng Nghaliffornia, America.

Dywedodd Kim Dobrzensky: "'Dan ni mor gyffrous. 'Dan ni eisiau mynd i'r castell, i'r bae, a 'dan ni eisiau gweld yr arcades felly 'dan ni mor gyffrous i fod yma.

"Dwi'n meddwl mai'r ffordd y mae hi'n siarad efo merched ifanc, mae hynny mor bwerus o safbwynt bod yn ddynes, a sefyll i fyny am yr hyn y mae hi'n gredu, dwi jyst yn meddwl ei bod hi'n anhygoel."

Ychwanegodd ei merch, Kara: "Dwi mor gyffrous, ro'n i isio mynd pan oedd hi ar daith yn Los Angeles, ond doeddan ni methu cael tocynnau, a sypreis llwyr oedd y tocynnau yma yng Nghaerdydd gan fy rhieni, a dwi wastad wedi bod eisiau dod i Ewrop, ac wrth gwrs, dwi wastad wedi bod eisiau gweld Taylor Swift."

Image
Trudy ac Ella-Mae
Ella-May Matthews a Trudy Thomas

Ychwanegodd Trudy Thomas, sydd wedi teithio o Fryste i wylio Taylor Swift: "Mae'n anhygoel ei bod hi mor agos i ni hefyd, oherwydd mae o wastad yn teimlo fel ychydig o freuddwyd. Pan mae hi'n America a 'dach chi'n gweld bob dim ar TikTok ond 'dach chi ddim yn coelio ei fod o'n digwydd go iawn nes 'dach chi yma."

Image
Shelby a Kristen
Kristen Luce a Shelby Pearce

Mae Kristen Luce wedi teithio o Boston yn UDA i Gaerdydd.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n brofiad unwaith mewn bywyd i hi wneud Taith Eras, nawn ni byth brofi rhywbeth fel hyn eto a pha mor enwog ydi hi. 

"Mae llawer o bobl yn meddwl fy mod i'n wallgof ond dwi'n meddwl ei fod o werth bob ceiniog."

Ychwanegodd Shelby Pearce, sydd wedi teithio o Nashville yn America: "Alla i ddim disgwyl, mae hi'n berfformwraig anhygoel ac fe ges i gymaint o hwyl yn ei gweld hi y llynedd yn America a dwi methu disgwyl i'w gweld hi eto. 'Dan ni'n sefyll eto tro 'ma a dwi mor gyffrous.

"Dyma fy nhro cyntaf i yng Nghaerdydd, erioed wedi bod yng Nghaerdydd felly dwi'n edrych ymlaen at weld y ddinas hefyd."

Dim ond am un noson yn unig y bydd Taylor Swift yn perfformio yng Nghaerdydd.

Bydd y band pop-pync Paramore yn ei chefnogi nos Fawrth.

Ar gyfer tocynnau VIP, bydd giatiau'r stadiwm yn agor am 15:00. 

Bydd y giatiau yn agor am 16:00 ar gyfer tocynnau mynediad cyffredinol.

Yn ôl Stadiwm Principality, bydd y cyngerdd yn dechrau am 17:45 gyda Paramore yn perfformnio yn gyntaf.

Mae Swift yn debygol o ddechrau perfformio rhwng 19:00 a 19:30, ond nid yw'r amser wedi ei gadarnhau yn bendant hyd yma.


 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.