Newyddion S4C

Dynes a gafodd ei bygwth gyda gwn gan gyn-bartner yn colli cais gorchymyn atal

15/06/2024
Rhianon Brag

Mae dynes a gafodd ei bygwth gyda gwn gan ei chyn-bartner wedi colli cais i ymestyn gorchymyn atal yn ei erbyn.

Dywedodd Rhianon Bragg o Eryri ei bod hi mewn perygl ar ôl i farnwr wrthod cryfhau gorchymyn atal yn erbyn ei chyn-bartner.

Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon yr wythnos hon, yn ôl papur newydd y Guardian.

Roedd Ms Bragg wedi gofyn i'r gorchymyn atal yn erbyn Gareth Wyn Jones, a gafodd ei ryddhau o'r carchar eleni, gael ei ymestyn.

Ar hyn o bryd, nid oes gan Jones yr hawl i fynd i ardal gyfyngedig o amgylch fferm Ms Bragg yn Eryri.

Ond bydd y cyfyngiad hwnnw yn dod i ben yn 2029, ac mae Ms Bragg eisiau iddo gael ei wahardd yn barhaol.

'Bygythiad aruthrol'

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd Ms Bragg fod Jones yn “fygythiad aruthrol” iddi hi a’i phlant.

Fe eglurodd Ms Bragg nad oedd y gorchymyn presennol, sy’n ei wahardd rhag mynd o fewn 800 metr i’w chartref, yn ddigon llym oherwydd bod ei thŷ wedi'i amgylchynu gan dir comin a bod modd eu gweld o filltiroedd.

Roedd yr erlyniad a Heddlu’r Gogledd yn cefnogi dadleuon Ms Bragg.

Roedd swyddog prawf hefyd wedi dod i’r casgliad bod Jones yn parhau’n ddyn treisgar ac nad oedd modd diystyru’r “risg o farwolaeth”.

Ond dyfarnodd y barnwr, Timothy Petts, na allai ymestyn y gorchymyn oherwydd bod barnwr arall yn gwybod am berygl Jones pan gafodd y gorchymyn ei roi iddo'n wreiddiol. Dywedodd y byddai'n rhaid i'r amgylchiadau newid er mwyn cryfhau'r gorchymyn.

Wrth roi tystiolaeth tu ôl i sgrin, fe wnaeth Ms Bragg ddisgrifio ei chyn-bartner fel person “ystyfnig, peryglus a gorfodol”.

“Mae’n fygythiad enfawr i fy mhlant a minnau. Nid yw'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn y mae wedi'i wneud. Bydd yn dod yn ôl ac yn ein targedu eto. Rwy'n amau'n gryf y bydd yn ein lladd," meddai.

Dywedodd Ms Bragg wrth y llys ei bod bellach yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Cafodd Jones ei garcharu am bedair blynedd a hanner am ddal Ms Bragg yn wystl dros nos wedi iddi ddod â'u perthynas i ben yn 2019.

Roedd Jones hefyd wedi ei stelcio a gwneud bygythiadau i'w lladd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.