Cwmni’n ennill apêl i godi safle storio cyrff anifeiliaid ger Capel Salem

Capel Salem
Mae cwmni o Fôn wedi ennill apêl i godi safle sy’n storio cyrff anifeiliaid ger capel hanesyddol Salem ym Meirionnydd.
Cyflwynodd Cymru Lân gynlluniau ar gyfer adeilad 13.5m x 9m fyddai’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i gadw cyrff anifeiliaid o ffermydd gerllaw, yn ôl The Daily Post.
Daw’r newyddion yn dilyn gwrthwynebiad gan Bwyllgor Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri fis Rhagfyr diwethaf, oedd yn pryderu am effaith y safle ar y capel.
Cafodd Capel Salem ei bortreadu gan yr artist Curnow Vosper yn ei ddarlun enwog yn 1908, wrth iddo ddarlunio Siân Owen a’r diafol yn ei siôl.
Darllenwch y stori’n llawn yma.