Newyddion S4C

Dyn o Gaernarfon yn ceisio dod â madarch arbennig i’r brif ffrwd

Dyn o Gaernarfon yn ceisio dod â madarch arbennig i’r brif ffrwd

Yn ystod y pandemig, roedd Gareth Griffith-Swain, 33 oed, wedi dechrau tyfu madarch yn ei ystafell wely.

Erbyn heddiw, mae’r gŵr o Waunfawr ger Caernarfon wedi ennill cytundeb i gyflenwi 1,000 o siopau Aldi gyda’i gynnyrch.

Fe dderbyniodd Gareth y cytundeb am 20,000 o bacedi madarch ar ôl iddo ddod yn fuddugol ar raglen Aldi’s Next Big Thing Channel 4.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gareth: "Mae’n debygol o fod y peth mwyaf dw i erioed wedi’i wneud yn fy mywyd.

"Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn dipyn o blur, ond mae'n wych gweld cwmni enfawr fel Aldi yn fy nghefnogi. Dw i'n meddwl mai nhw yw’r cyntaf, a dw i'n meddwl ei fod yn arwydd o bethau i ddod.”

Gyda chefnogaeth Grŵp Llandrillo Menai, fe gafodd Gareth y cyfle i ddatblygu ei gynnyrch yn y ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni, Ynys Môn.

Mae'r mentrwr bellach wedi sefydlu Fungi Foods, cwmni sy'n arbenigo mewn madarch egsotig, gan gynnwys math o'r enw mwng llew.

Mentro gyda madarch 

Fel mae'r enw'n ei awgrymu, mae'r madarch unigryw yn edrych fel mwng llew ac fel arfer yn tyfu ar goed sy'n pydru yn hemisffer y gogledd.

Mae madarch mwng llew wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd mewn meddygaeth Tseiniaidd traddodiadol.

Ond dim ond yn ddiweddar mae'r ffwng wedi dod yn boblogaidd yn y byd gorllewinol.

Image
Gareth Griffith-Swain
Mae Gareth yn tyfu madarch mwng llew

Yn ôl Gareth, mae'r math yma o fadarch yn "arbennig".

"Nes i ddewis madarch mwng llew oherwydd maen nhw'n fadarch meddyginiaethol da iawn ond hefyd yn blasu'n wych," meddai.

"Maen nhw wir yn arbennig – nid yw llawer o fadarch meddyginiaethol yn fadarch bwytadwy, felly mae pobl fel arfer yn eu cymryd fel powdr."

Mae blas ysgafn a gwead cigog madarch mwng llew yn aml yn cael ei gymharu â chimwch.

Ac mae Gareth yn tyfu'r cynnyrch unigryw mewn blociau arbennig ar ei fferm yng Ngwynedd.

Yn ogystal â chyflenwi Aldi gyda madarch mwng llew wedi eu sychu, mae Gareth yn gwerthu bob math o fadarch ar ei wefan Fungi Foods.

Mae bwytai poblogaidd fel Sheeps & Leeks yng Nghaernarfon hefyd yn prynu madarch ganddo.

'Buddion iechyd posib'

Yn ôl y maethydd naturopathig Elin Prydderch, mae ymchwil wedi awgrymu y gallai'r madarch fod â buddion iechyd yn enwedig ar gyfer yr ymennydd.

"Natho nhw arbrawf ar bobl efo Alzheimer's i weld os oedd o’n cal mantais ar hwnna, ac mi oedd o, odda nhw’n gweld gwelliant yn y cof," meddai. 

Ond prin yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd, ac mae gwyddonwyr yn dweud bod angen mwy o ymchwil er mwyn deall sut effaith mae'r madarch yn ei gael.

Er hynny, mae gwyddonwyr yn dangos mwy a mwy o ddiddordeb mewn effaith iechyd posib madarch, ac mae Elin yn tynnu ein sylw at ymchwil a gafodd ei gyhoeddi yn y newyddiadur Phytotherapy Research yn ddiweddar.

"Natho nhw wneud prawf efo pobl 50 oed i fyny at 80 oed, ac o’r diwrnod cyntaf o gymryd madarch mwng llew odda nhw’n gweld gwahaniaeth yn y cof. 

"Wedyn natho nhw drio fo efo pobl 20 oed i fyny at 50 oed, a hyd yn oed efo nhw, pan odda nhw’n gwneud y profion wedyn i brofi eu cof nhw a’u cyflymder nhw, mi odda nhw’n cyflymu ac yn gwella y mwy o ddyddiau odda nhw’n cymryd y madarch mwng llew."

Ond dywedodd Elin bod yr ymchwil wedi dangos bod yn rhaid cymryd y madarch "yn gyson" er mwyn i'r effeithiau barhau.

Image
Madarch mwng llew

Ychwanegodd bod y madarch hefyd yn hybu iechyd y perfedd trwy fwydo'r bacteria "da" yn y coluddion.

"Mae’n ddiddorol iawn hefyd achos bod o'n effeithio’r coluddyn, ac mae’r bacteria yn y coluddyn yn cyfathrebu efo dy ymennydd di," meddai.

"Felly achos bod o’n cynyddu gwelliant y microbiome yn y gut, mae o hefyd yn cael effaith positif at dy feddwl di'r ffordd yna hefyd," meddai.

Fodd bynnag, mae Elin yn annog pobl sydd ar feddyginiaeth i gysylltu â'u meddyg cyn cymryd unrhyw atchwanegiadau iechyd.

"Mae rhai o'r madarch yn gallu gwrthweithio yn erbyn meddyginiaethau, felly mi fyswn i’n checio efo meddyg cyn mentro," meddai.

'Dod â madarch i'r brif ffrwd'

Yn y dyfodol, bwriad Gareth yw dod â'r madarch arbennig yma i’r brif ffrwd.

"Dw i'n meddwl bod 'na 'chydig o ddirgelwch am fadarch, ac maen nhw'n gwneud i rai pobl deimlo'n rhyfedd," meddai. "Ac mae pobl yn tueddu i fod yn ddibynnol iawn ar un neu ddau o rywogaethau y maent yn dod o hyd iddyn nhw yn yr archfarchnad."

Yn ogystal â madarch mwng llew, mae Gareth hefyd yn tyfu cordyceps, maitake a shiitake. 

"Dw i eisiau dod â rhai o'r rhywogaethau mwy egsotig hyn i'r brif ffrwd," meddai.

Beth bynnag ddaw yn y dyfodol, mae un peth yn sicr: mae Gareth wedi dod yn bell o dyfu madarch yn ei ystafell wely.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.