E.coli: Cwmni bwyd yn tynnu cynnyrch yn ôl 'rhag ofn'
Mae cwmni cynhyrchu bwyd wedi tynnu rhai brechdanau a saladau yn ôl o archfarchnadoedd mwyaf y DU, gan ofni fod yna gysylltiad rhyngddyn nhw ag achosion o E.coli.
Ddechrau mis Mehefin, roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi bod o leiaf 37 o bobl wedi bod yn yr ysbyty wedi iddyn nhw gael eu heintio gyda E.coli, gan gynnwys 18 o achosion yng Nghymru.
Dywedodd swyddogion Greencore Group eu bod wedi galw'r bwydydd yn ôl o’r siopau "rhag ofn".
Mae’r bwydydd yn cael eu gwerthu mewn siopau fel Asda, Aldi, Sainsbury’s, Morrisons, Co-op a Boots.
Mae disgwyl i gwmnïoedd cynhyrchu bwyd eraill gyhoeddi y bydd angen i siopau roi'r gorau i werthu eu cynnyrch nhw hefyd.
'Posib'
Dywedodd Darren Whitby o'r Asiantaeth Safonau Bwyd bod y cwmnïoedd wedi penderfynu gweithredu oherwydd bod yr asiantaeth, yn ogystal ag Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, yn cynnal ymchwiliadau er mwyn dod o hyd i darddiad achosion newydd o E.coli sy'n cynhyrchu tocsin shiga, o’r enw Stec.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Greencore Group: “Fel rhagofal, rydym wedi penderfynu na ‘ddylai nifer o frechdanau a ‘wraps’ gael eu gwerthu gan fod yna beryg posibl o ran diogelwch y bwydydd.”
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn cydweithio’n “agos” gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn dod o hyd i ffynhonnell “unrhyw broblem bosib.”