
Craig Williams: Llafur yn cwyno yn dilyn honiadau o osod bet ar ddyddiad yr etholiad
Mae’r Blaid Lafur wedi ysgrifennu i gwyno am yr ymgeisydd Ceidwadol, Craig Williams, sydd dan ymchwiliad am fetio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.
Fe wnaeth yr ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr gyfaddef nos Fercher iddo osod bet ar ddyddiad yr etholiad, ddyddiau yn unig cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Ar 19 Mai, fe wnaeth roi bet £100 gyda’r cwmni betio Ladbrokes y byddai’r etholaeth yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.
Roedd Mr Williams yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat y Prif Weinidog Rishi Sunak ar y pryd. Fe wnaeth Mr Sunak gyhoeddi ar 22 Mai y byddai’r etholiad yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.
Fe wnaeth Mr Williams ymddiheuro yn ddiweddarach, gan ddweud ei fod wedi gwneud “camgymeriad difrifol” drwy osod y bet, gan ychwanegu:"Fe ddylwn i fod wedi ystyried sut roedd o'n edrych."
Mae'r Comisiwn Hapchwarae bellach yn ymchwilio i'r mater ar ôl i Ladbrokes ddod a’r bet i’w sylw.

'Difrifol'
Mae Llafur bellach wedi ysgrifennu at gadeirydd y Ceidwadwyr, Richard Holden, yn galw ar y blaid i dynnu’r chwip oddi ar Mr Williams pe bai’n ennill y sedd, os yw’r ymchwiliad yn canfod ei fod wedi defnyddio gwybodaeth freintiedig i osod y bet.
Dywedodd Cadeirydd y blaid Lafur, Anneliese Dodds: “Mae’r awgrym y gallai Craig Williams fod wedi defnyddio gwybodaeth freintiedig i osod y bet hwn yn honiad eithriadol o ddifrifol.
"Os yw hyn yn wir, yna nid oes ganddo le ar feinciau’r Ceidwadwyr, os yw am ennill ei sedd.
“Mae hyd yn oed yr awgrym o hyn – a allai fod yn gyfystyr â thwyllo, sy'n drosedd o dan y Ddeddf Hapchwarae – yn niweidiol iawn i ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth.
“Gyda hyn mewn golwg mae’n rhaid i mi ofyn i chi: beth oedd rôl Craig Williams yn y trafodaethau o gwmpas dyddiad yr etholiad? Pryd allai Craig Williams fod wedi cael syniad rhesymol fod etholiad Gorffennaf yn bosibilrwydd realistig?
"A phryd oedd y blaid Geidwadol yn gwybod am y bet yma a’r ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae?”
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am wahardd Craig Williams fel ymgeisydd.
Dywedodd Daisy Cooper o'r blaid: “O ystyried bod Craig Williams yn gynorthwydd personol agos i Rishi Sunak, mae'n hanfodol bod y Prif Weinidog yn ei wahardd fel ymgeisydd ac fel aelod o'r blaid Geidwadol ar unwaith tra mae'r ymchwiliad yn cael ei gynnal."
Mae Craig Williams yn parhau yn ymgeisydd Ceidwadol yn y sedd.