Newyddion S4C

Amy Dowden yn derbyn MBE 'ar ran pawb' sy'n byw â chlefyd Crohn's

15/06/2024
Amy Dowden

Mae’r ddawnswraig Amy Dowden wedi cael ei henwi ar restr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin eleni am godi ymwybyddiaeth am glefyd Crohn’s. 

A hithau’n byw â’r cyflwr sydd yn effeithio ar y coluddyn, dywedodd y seren Strictly Come Dancing ei bod yn derbyn yr anrhydedd “ar ran pawb” sy’n dioddef a’r clefyd. 

Fel llysgennad i'r elusen Crohn’s & Colitis UK, mae Ms Dowden bellach wedi derbyn MBE am ei chyfraniad i’r elusen yn ogystal â’i holl waith ymgyrchu.

Dywedodd y ddawnswraig 33 oed o Gaerffili fod y profiad o gael ei hanrhydeddu wedi bod “y tu hwnt i’w holl freuddwydion".

“Dwi’n derbyn yr anrhydedd ar ran pawb sy’n byw a chlefyd Crohn’s a byddai’n parhau i ymgyrchu er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr, yn ogystal â gwaith ymchwil i’r salwch cronig ofnadwy yma," meddai.

“Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch staff anhygoel y GIG sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd, yn ogystal â Crohn’s & Colitis UK sydd yn gwneud gymaint i gefnogi’r rheiny sy’n dioddef."

Symptomau

Cafodd Amy Dowden diagnosis o glefyd Crohn’s yn ferch ifanc, ond roedd hi’n bryderus am ddatgelu’r ffaith hwnnw pan wnaeth hi ymuno â chyfres Strictly Come Dancing, meddai. 

Cyhoeddodd ei bod yn byw â’r cyflwr yn 2019, gan gyflwyno rhaglen dogfen arbennig o’r enw Strictly Amy: Crohn’s And Me. 

Mae poen difrifol yn y bol, chwydu difrifol, blinder ac ysgarthion gwaedlyd ymysg rhai o symptomau’r clefyd.

Mae Amy Dowden hefyd wedi bod yn agored am ei brwydr yn erbyn canser y fron yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi iddi gael diagnosis ar ôl dod o hyd i lwmp yn ei bron noson yn unig gyn iddi ddathlu ei Mis Mêl yn Ebrill 2023. 

Ym mis Mehefin y llynedd fe gyhoeddodd y ddawnswraig ei bod wedi cael llawdriniaeth mastectomi. Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth rannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dathlu diwedd cyfnod ei thriniaeth cemotherapi.

Fe gyhoeddodd yn ddiweddar y bydd yn dychwelyd i raglen Strictly Come Dancing ar ôl iddi orfod methu’r gyfres ddiwethaf oherwydd ei diagnosis o ganser. 

Llun: Matt Alexander/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.