
'Teimlad o berthyn': Dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth
Wrth i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ddathlu 50 mlynedd o'i bodolaeth eleni, mae rhai sydd wedi bod yn Llywydd ar yr undeb wedi siarad am ei bwysigrwydd a'r ymdeimlad o berthyn.
Bydd diwrnod i ddathlu'r penblwydd yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, gyda chinio i'r cyn-lywyddion yn Yr Hen Lew Du a gig yn y nos gyda Mei Emrys, Dros Dro, Cyn Cwsg a Mynediad am Ddim yn perfformio.
Bydd sesiwn holi ac ateb llywyddion UMCA a theithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Neuadd Pantycelyn yn ystod y dydd hefyd.

Dyfrig Berry oedd y Llywydd UMCA cyntaf o dan yr undeb ehangach, a hynny rhwng 1975 ac 1976, ac roedd hynny yn "fraint enfawr" iddo.
"Oedd nifer o bobl wedi cydweithio i'w sefydlu ond dwi'n meddwl oedd y flwyddyn gynta 'na yn rhan o'r Undeb ehangach yn bwysig iawn achos dyna pryd oedd genna ni gyllid digonol am y tro cyntaf, ag yn gallu cychwyn nifer o ymgyrchoedd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ar y dechra' yn sicr, ymgyrchoedd i Gymreigio'r coleg oedd prif nod UMCA ac fe wnaethon ni gychwyn nifer o ymgyrchoedd ar y pryd."

Er y fraint o fod yn Lywydd, roedd hynny yn dod gyda'i heriau hefyd yn ôl Mr Berry.
"O safbwynt Cymreigio'r coleg, doedd gan UMCA fel y cyfryw ddim llais ar bwyllgorau'r Coleg o gwbl. Dyna un ymgyrch wnaethom ni i gychwyn oedd ceisio cael llais ar bwyllgorau'r Coleg," meddai.
"Weithia yn digwydd bod oedd 'na un aelod o UMCA yn cael ei ddewis gan yr undeb i gynrychioli'r undeb ond doedd ganddom ni ddim llais uniongyrchol felly dyna oedd un o'r pethau oedd yn neud hi yn anoddach.
"Dyna pam oedd hi mor bwysig i gael UMCA mor annibynnol â sy phosib er mwyn gallu brwydro ein hunain yn hytrach na brwydro popeth drwy'r undeb ehangach."

Fe aeth Mared Ifan i'r brifysgol yn Aberystwyth yn 2010, cyn mynd ymlaen i fod yn Llywydd UMCA rhwng 2013 a 2014, ac mae ganddi nifer o atgofion melys o'i hamser hi yn y Coleg ger y Lli.
"Mae gen i bob math o atgofion amrywiol, yn amlwg nes i ffrindiau oes yna o berspectif cymdeithasol, nes i ddod ar draws pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt, a jyst cael fy nghyflwyno i acenion a thafodieithoedd gwahanol, a jyst y cymdeithasu a'r teimlad o berthyn yn fwy na dim a jyst gweld bod y Gymraeg yn gallu bod yn iaith gwbl naturiol, o'dd e'n hafan ar gyfer hynny," meddai.
Roedd Mared yno pan oedd dyfodol Neuadd Pantycelyn, sef y llety preswyl i fyfyrwyr Cymraeg, yn y fantol.
Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth yn 2013 y byddai'r neuadd yn cau ei drysau yn barhaol, gyda'r nod o sefydlu canolfan newydd i'r iaith Gymraeg.

Roedd nifer o fyfyrwyr yn anhapus gyda'r cyhoeddiad hwnnw, ac roedd ymgyrchu brwd er mwyn sicrhau y byddai'r Neuadd yn ail-agor.
Ar ôl cytuno ar gynllun busnes i ddatblygu a sicrhau cyllid er mwyn ail-agor Pantycelyn, fe wnaeth y neuadd ail-agor ym mis Medi 2020 ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Cymraeg.
Ychwanegodd Mared: "O feddwl faint o hwb diwylliannol, ieithyddol a hyd yn oed gwleidyddol o bob sbectrwm o'r byd gwleidyddol yng Nghymru o'dd Neuadd Pantycelyn, o'dd e jyst mor bwysig bo' ni'n cadw hi fel y ganolfan honno ar gyfer y pob math o weithgaredde o'dd hi'n cefnogi.
"O'dd e'n hynod o bwysig i ni, a dim jest i ni fel myfyrwyr, ond i genedlaethe o bobl erill ar draws Cymru a thu hwnt hefyd. Y cyfraniad mae hi wedi neud i bob math o fywyd, o'n i'n cael y teimlad yna o'r holl gefnogaeth dim jyst yn Aberystwyth ond yn ehangach hefyd.
"Mae jyst yn braf bo' ni wedi gallu chwarae rhan bach yn hynny a gweld bod neuadd a digwyddiadau UMCA yn dal i fod mor gryf â mae nhw wedi bod ers y cenedlaethau."

Roedd Mared yn Llywydd UMCA pan oedd yr undeb yn dathlu ei benblwydd yn 40, ac mae'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r dathliadau dros y penwythnos.
"Erbyn hyn, ni'n dathlu'r 50, so fi'n rili falch fod digwyddiade i ddathlu hynny a bydd e'n gyfle dros y penwythnos i fynd yn ôl a hel atgofion a chymharu nodiade fel llywyddion," meddai.
"Ar lefel bersonol, mae 'di rhoi cymaint i fi, y ffrindie oes, y profiade gore, nes i gwrdd â fy mhartner i yno. Ma' hefyd yn rhoi'r teimlad o berthyn, y teimlad o weld bod y Gymraeg wir yn iaith i bawb ac yn iaith naturiol ma' pobl yn gallu siarad yn gymdeithasol."

Un sydd â'r rôl bresennol fel Llywydd UMCA ydi Elain Gwynedd, ac roedd cael ei phenodi i'r swydd yn deimlad arbennig iddi.
"Mae di bod yn brofiad hollol, hollol wych a dwi'n meddwl o'dd genai fy mryd ar fod yn lywydd bron ers i fi ddechrau yn y brifysgol a jyst gallu gwireddu'r freuddwyd honno wedyn yn brofiad gwych," meddai.
Mae'r Llywydd yn gyfrifol am drefnu pob math o weithgareddau i fyfyrwyr Cymraeg, o'r Ddawns Ryng-Gol i'r Eisteddfod Ryng-Gol, ond maen nhw hefyd yn gyfrifol am gyfrifoldebau pwysig eraill.
"Un peth nes i yn llythrennol ar y dydd Llun ar ôl 'Steddfod Ryng-gol, nes i gyflwyno polisi i gyfarfod cyffredinol yr undeb ehangach er mwyn newid enw'r undeb i un uniaith Gymraeg," meddai.
"Oedd 'na ryw dueddiad o weld yr undeb ehangach fel yr un Saesneg ac UMCA fel yr un Gymraeg ag ia, trio chwalu'r stigma yna mewn ffordd.
"Dwi'n cael sefyll ar rai o bwyllgorau pwysica'r brifysgol felly cyngor y brifysgol, y bwrdd academaidd, ymysg rhai eraill felly ma' 'na lot yn rhan o'r swydd."

Roedd Elain yn un o'r criw cyntaf i gael llety yn Neuadd Pantycelyn wedi iddi ail-agor.
"Dwi jyst yn cofio o'dd 'na deimlad o fod mor mor ddiolchgar i bobl fel Mared Ifan. Dwi ddim yn gw'bod be fasa ni wedi ei neud heb Pantycelyn i fod yn hollol onasd," meddai.
"'Dan ni mor lwcus bo' genna ni adeilad mor hardd ac eiconig sydd bron yn cynrychioli ni fel myfyrwyr Cymraeg ag yn ryw fath o hafan i ni gyd."
Mae Elain yn teimlo yn ffodus iawn o allu cynnig llais i'r holl fyfyrwyr Cymraeg ar lefel Cyngor y Brifysgol, rhywbeth oedd y Llywydd UMCA cyntaf, Dyfrig Berry, wedi brwydro amdano yn ôl yn y 70au.
"Wrth sefyll ar gyngor y brifysgol, ma' Llywydd UMCA a Llywydd yr Undeb ehangach yn cael sedd awtomatig mewn ffordd ar y cyngor a dydy hynny ddim yn rwbath sy'n digwydd ymhob prifysgol yng Nghymru felly dwi'n meddwl bo' ni'n lwcus iawn a'n cael lleisio barn myfyrwyr Cymraeg ar lefel fel y cyngor," meddai.
"Mae o'n teimlo fel bo' ni gyd ar yr un daith. 'Dan ni gyd yn astudio pynciau gwahanol ond UMCA ydy'r peth 'na sy'n dod â pawb yn ôl at ei gilydd a ma' hwnna yn rwbath rili sbeshial dwi'n meddwl.
"O ran UMCA, ma' genna ni rywun sy'n gallu cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn y brifysgol, ma' hwnna mor bwysig."