
Mam ifanc fu bron a marw yn diolch i'r 'arwyr' achubodd ei bywyd
Mae mam ifanc o Bontarddulais a wnaeth ddioddef anafiadau “hynod o ddifrifol” mewn gwrthdrawiad car wedi ymweld â’r “arwyr” a wnaeth ei hachub.
Ym mis Awst 2021, roedd Sinead Williams, oedd yn 20 oed ar y pryd, yn teithio mewn car yn ystod oriau man y bore, pan wnaeth y gyrrwr golli rheolaeth a tharo golau stryd ar Ffordd Abertawe ym mhentref Pontlliw, ger Pontarddulais.
Roedd y gyrrwr wedi dianc gydag anafiadau nad oedd yn ddifrifol, ond roedd bywyd Sinead yn y fantol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad, yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru a’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).

Dywedodd y meddyg ymgynghorol oedd ar leoliad, Dr Tom Rennison: “Roedd gan Sinead guriad calon gwan iawn ac roedd ganddi hi anafiadau difrifol iawn.”
Roedd yn rhaid i feddygon ei thrin yn y fan a’r lle er mwyn achub ei bywyd, gan roi gwaed iddi hi ar unwaith a rhoi anaesthetig iddi.
Roedd yn rhaid rhoi pibell i lawr ei gwddf i’w helpu i anadlu, cyn perfformio techneg lawfeddygol thoracostomi, er mwyn lleihau’r pwysau cynyddol ar ei brest.
Yna cafodd ei chludo yn yr ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Dyna ble arhosodd am dri mis, gan dderbyn naw llawdriniaeth a 140 o unedau o waed.
Roedd Sinead wedi torri esgyrn yn ei phelfis, coes, breichiau a’i chefn; roedd ei hysgyfaint wedi cwympo; fe ddioddefodd anafiadau i’w hafu, pancreas ac aren; ac roedd hi’n gwaedu ar yr ymennydd, yn ogystal â gwaedu’n fewnol.
'Ddim yn meddwl y bydda hi’n goroesi.'
Dywedodd Sinead: “Sa i’n gallu cofio llawer ohono ond fi’n gwybod pa mor ddifrifol roedd fy anafiadau. Fe wnes i dorri gymaint o esgyrn ac roedd gymaint o fy organau ddim yn gweithio.
"Roedd gen i anaf ar yr ymennydd ac roedd fy ysgyfaint wedi cwympo – ond fe wnaeth y criw eu chwythu nôl lan ar ochr yr hewl.”
Cafodd ei rhoi mewn coma, gyda’r ymgynghorydd gofal dwys Dr Chris Hingston yn dweud, “ar y pwynt yna, doeddwn i wir ddim yn meddwl y bydda hi’n goroesi.”

Roedd pryderon hefyd am gyflwr ei hymennydd ar ôl y coma.
Dair wythnos yn ddiweddarach, fe gafodd Sinead ei ddihuno o’r coma. Fe wnaeth hi hefyd ddioddef strôc, sydd wedi cael effaith ar ei gallu i symud.
Ond yn ara' deg fe wnaeth ei chyflwr wella ac ar ôl derbyn cefnogaeth gan dîm ôl-gofal yr ambiwlans awyr, fe gafodd ei hail-gyflwyno i’w merch ifanc, Lexi, a’i theulu.
'Emosiynol'
Ac ar ôl gadael yr ysbyty ar ôl tri mis, fe wnaeth Sinead ymweld â phencadlys yr Ambiwlans Awyr yn Llanelli i gwrdd â’r meddygon a wnaeth achub ei bywyd.
Dywedodd Jo Yeoman, nyrs cyswllt oedd wedi gweithio gyda Sinead: “Roedd yr ymweliad yn un hynod emosiynol pan ddaeth Sinead i weld y tîm a wnaeth achub ei bywyd.

"Roedd e’n bwysig iawn i’r criw cael gweld y ffordd ryfeddol yr oedd wedi gwella ac i weld effaith y triniaethau y wnaethon nhw eu rhoi iddi hi, a wnaeth ei galluogi i weld ei merch a’i theulu unwaith eto.”
Ychwanegodd Dr Tom Rennison: “Mae’n ein gwneud ni’n hynod o falch i glywed sut mae Sinead wedi gwella ar ôl anafiadau hynod o ddifrifol. Roedd hi mewn cyflwr enbyd ac mae hi’n un claf sydd wedi aros yng nghof pawb.”
Mae Sinead yn parhau i ymdopi â’r newidiadau yn ei bywyd wedi’r ddamwain, ond yn ddiweddar, fe lwyddodd i fynd yn ôl i weithio.
“Rydw i dal yn cael triniaeth rehab ac mae dal ‘da fi fwy o lawdriniaeth i’w cael, ond does dim amheuaeth na fyddwn i wedi goroesi heb ofal yr Ambiwlans Awyr ac EMRTS – roedd eu gofal yn berffaith.
"Y cyfan allwn i'w ddweud yw - diolch.”