Her dynes o Nefyn i deithio ar draws America… ar gefn beic modur
Her dynes o Nefyn i deithio ar draws America… ar gefn beic modur
Ers bron i ddeufis, mae Alaw Llewelyn Roberts o Nefyn wedi bod yn teithio ar draws Yr Unol Daleithiau – a hynny ar gefn beic modur.
Mae Alaw, 32 oed, wedi bod â diddordeb mewn beiciau modur ers ei phlentyndod.
Yn blentyn roedd ganddi feic bach trydan, ac erbyn iddi fynd i’r brifysgol yng Nghaerdydd fe roedd ganddi foped i fynd o amgylch y ddinas.
Ond dathlu penblwydd carreg filltir yn ystod y pandemig wnaeth ei ysgogi i gael trwydded beic modur.
“Nes i droi’n 30 a dechrau cael existential crisis a meddwl, rhaid i fi wneud wbath yn wahanol,” meddai Alaw, sy'n gweithio fel cynhyrchydd teledu.
“Felly nes i fynd amdani a gwneud y prawf motorbeic.”
Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae Alaw yn dilyn olion traed ei harwresau Elspeth Beard a Noraly Schoenmaker wrth fynd ar antur beic modur ei hun.
Ond yn wahanol i nifer o feicwyr modur sy’n cymryd rhan mewn heriau fel yr Iron Butt, sy'n anelu i gyflawni 1,000 o filltiroedd o fewn 24 awr, nid yw Alaw ar frys i gwblhau'r siwrne – her bersonol yw’r daith.
“Mae ‘na wbath rili cŵl am y ffaith bo’ chdi’n gorfod bod yn hunangynhaliol – ti’n cario bob dim efo chdi, ti’n dysgu lot o sgiliau gwahanol,” meddai.
O Wynedd i Washington
Fe adawodd Alaw ei chartref yng Ngwynedd fis Ebrill, gan deithio ar ei Honda CB500x i Fryste.
O Fryste, cafodd beic Alaw ei gludo ar draws Cefnfor yr Iwerydd i ddinas Jacksonville, Florida, sef man cychwyn ei thaith ar draws Yr Unol Daleithiau.
Y nod yw teithio o’r arfordir dwyreiniol i’r arfordir gorllewinol, gan orffen yn ninas Seattle, Washington – ond nid ydy hi wedi penderfynu ar lwybr pendant.
Ar ôl casglu ei beic yn Jacksonville, fe benderfynodd Alaw i deithio i Charleston, South Carolina, sef man cychwyn Rhyfel Cartref America yn 1861; ac yna ymlaen i’r Great Smoky Mountains, cadwyn o fynyddoedd sy'n pontio’r ffin rhwng Tennessee a Gogledd Carolina.
Yr uchafbwynt hyd yma yw cwblhau’r ‘Tail of the Dragon’, lleoliad sy’n boblogaidd ymysg beicwyr modur oherwydd ei lonydd troellog a’i golygfeydd godidog.
“Mae o’n daith mor epic, mae o'n stretch o lôn mor iconic,” meddai.
“Dydw i ddim y reidar gora' yn y byd; dw i ond ‘di pasio fy nhest tair blynedd yn ôl, so ella ro’dd o’n beth gwirion i'w wneud. Ond o’n i’n hollol chuffed bo’ fi di llwyddo i 'neud hwnnw.”
Ar ôl tridiau yn gwersylla yn y mynyddoedd, fe wnaeth Alaw deithio i ddinas Nashville, Tennessee, cyn ymweld â ffrind o Gymru mewn rhan arall o’r dalaith.
Fel rheol, mae hi’n trio osgoi teithio drwy ardaloedd trefol.
“Ma’ nhw’n nightmare pan ti’n reidio efo’r kit i gyd a ti’n mynd at intersections ac yn gorfod eistedd mewn traffig – ti’m yn cael ffiltro efo beic fel ti’n cael ‘neud yn ein gwlad ni,” meddai.
“Ti’n eistedd yna yn berwi mewn traffig, felly mae’n well gen i’r llefydd mwy gwledig.”
Erbyn hyn, mae hi wedi cyrraedd talaith Kansas yng nghanol Tornado Alley, sef un o’r ardaloedd sy’n profi’r mwyaf o orwyntoedd yn y byd.
“Ar y ffor’ yma nesi basio grŵp o dai oedd yn hollol decimated ar ôl y tornado dwytha,” meddai.
“Ma’ hyd yn oed just glaw yma, pan ma’n dumpio ma’n dumpio’n ofnadwy – ti’m isio cal dy ddal allan ar y lôn bryd hynny achos ma’n mynd yn llithrig.”
Teithio fel dynes ar ei phen ei hun
Yn anffodus, nid y tywydd yw'r unig beth mae'n rhaid i Alaw gadw llygad barcud arno.
“Dw i ‘di cael ambell i interaction ych a fi efo dynion yn trio hi on,” meddai. “Mae just yn fater o beidio cael guard chdi lawr; dw i’n ofalus iawn iawn efo be dw i’n ‘neud a lle dw i’n mynd.”
Fe roedd Alaw wedi bwriadu mynd i ddinas New Orleans, Louisiana, ond fe ddaeth i’r amlwg wrth siarad â phobl yn Florida nad oedd hynny’n syniad da.
“Ro’dd ‘na gymaint o bobl wedi deud wrtha i fod fan ‘na yn beryg i fi fel hogan sy’n teithio ar ei phen ei hun – lot o bobl yn cael eu spikio a ballu yna,” meddai.
Mewn ymgais i gadw’n ddiogel, dywedodd bod rhai menywod yn defnyddio triciau fel rhoi pâr o esgidiau dynion ail law y tu allan i’w pebyll “fel bod pobl yn meddwl bod rhywun efo nhw”, ac osgoi datgelu gormod o fanylion am eu cynlluniau "rhag ofn i rywun eu dilyn".
Ychwanegodd: “Ond y gwir amdani ydy, dydy merched ddim yn saff lle bynnag maen nhw yn y byd.”
Er gwaetha’r heriau, mae Alaw yn mwynhau cael cyfarfod pobl wahanol ac ymweld â llefydd newydd.
“Mae’n nyts faint o bobl ti’n siarad a mwydro efo, dw i’n meddwl na dyna fy hoff ran i,” meddai.

“Dw i’n osgoi’r interstates fel bo’ fi’n cael mynd drwy bentrefi a threfi bach - mae gweld sut fath o geir maen nhw’n dreifio, be’ maen nhw’n plannu fel crops i gyd mor ddifyr,” meddai.
Gydag etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau fis Tachwedd, dywedodd bod y sefyllfa wleidyddol yn teimlo’n “eithafol” wrth i fflagiau Donald Trump gael eu harddangos yn nhaleithiau’r de.
“Oni’n siarad efo dyn yn y Smokies cyn gwneud y 'Tail of the Dragon' – ro’dd o mewn T-shirt gyda ‘F*** Biden’ ar y cefn, a nath o rocio fyny yn ei Harley efo sigâr mawr yn ei geg – ac o’n i’n meddwl bod hwn byth y math o foi 'swn i’n siarad efo adra.
“Ond natho ni ddigwydd siarad, a oddo ‘di rhoi batri GoPro fo i fi; pan ti mewn lle diarth ti’n tueddu i agor dy hun fyny i siarad efo pobl sa ti’n osgoi fel arall.
“Felly i siarad efo fo, o’dd o’n foi neis ond o’n i wedi gwneud fy mhenderfyniad am bwy oedd o cyn siarad efo fo a natho endio fyny yn bod yn rili neis efo fi.”
Ychwanegodd Alaw bod ei phrofiadau ar y daith hyd yma wedi profi ei damcaniaeth bod y rhan fwyaf o bobl yn y byd yn bobl dda.
“Ochr arall i sgrin, mae mor hawdd pardduo pobl a ‘neud rhagfarnau am bobl, ond os ti’n mynd allan i’r byd go iawn a siarad efo pobl, dydy ddim mor ddu allan ‘na a ti’n feddwl.”
‘Mynd amdani’
Mae Alaw yn annog merched eraill sydd eisiau mynd ar antur ar eu pen eu hunain – boed ar gefn beic modur ai peidio – i “fynd amdani”.
“Mae’n fater o just gwthio dy hun… peidio â disgwyl am y cyfle iawn, neu beidio â meddwl bod rhaid disgwyl tan fod mêts yn gallu dod efo chdi,” meddai.
“Os ti ‘sio mynd, mynd. Dydi o’m yn hawdd bob tro, ella gei di gyfnodau o deimlo’n unig. Ond mae gwthio dy hun allan o’r comfort zone 'na a mynd… dw i’n meddwl ‘sa ti’n dychryn gymaint o bobl nei di endio fyny’n siarad efo.”
Dros y mis nesaf, bydd Alaw yn teithio drwy Colorado a Utah cyn gorffen ei thaith yn Seattle.
Mae'n bosib dilyn ei thaith ar ei chyfrif Instagram @alawuntoherself.