Newyddion S4C

Carcharu gofalwraig am ysgwyd bachgen naw mis oed i farwolaeth

13/06/2024
Harlow Collinge

Mae gofalwraig plant a wnaeth ysgwyd bachgen naw mis oed i farwolaeth wedi derbyn dedfryd o garchar am 12 mlynedd a saith mis.

Clywodd Llys y Goron Preston fod Karen Foster, 62, wedi achosi i Harlow Collinge gael anafiadau ar yr ymennydd ar 1 Mawrth 2022.

Digwyddodd yr ymosodiad ar ôl i’w fam, Gemma Collinge, adael ei mab yn nhŷ’r ofalwraig yn Hapton, yn Sir Gaerhirfryn.

Ar ôl i barafeddygon gael eu galw a Harlow gael ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, fe wnaeth Foster gofleidio ei fam yn yr ysbyty a honni bod y bachgen wedi dechrau tagu a'i bod wedi ei daro ar ei gefn.

Image
Karen Foster
Karen Foster

Ond yn ddiweddarach fe wnaeth Foster geisio beio Ms Collinge am yr anafiadau.

Bu farw Harlow ddyddiau’n ddiweddarach ym mreichiau ei rieni, ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w ymennydd.

Er ei bod yn hawlio budd-daliadau oherwydd afiechyd, roedd Foster yn warchodwr plant cofrestredig. 

Roedd wedi bod yn torri rheolau Ofsted am y nifer o blant oedd dan ei gofal ag oedran y plant y dylai fod yn gofalu amdanynt, er mwyn gwneud mwy o arian gan rieni.

Roedd hi wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth ond plediodd yn euog i ddynladdiad ychydig cyn yr achos, gan gyfaddef iddi “ysgwyd” Harlow yn rymus, gan achosi ei farwolaeth.

Wrth gyhoeddi'r ddedfrydu, fe wnaeth y barnwr Mr Ustus Barry Cotter ddisgrifio Harlow fel bachgen “hapus, iach, hoffus”, ond dywedodd fod Foster, er gwaethaf afiechyd a phoen yn ei chlun, wedi dewis parhau i ofalu am fwy o blant nag y dylai o dan reolau Ofsted, a chyfrannodd hyn at “golli ei thymer”.

“Dylech fod wedi bod yn bâr diogel o ddwylo y gallai Gemma Collinge fod wedi gallu dibynnu arni i ofalu am ei phlentyn gwerthfawr,” meddai.

“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth i chi golli eich tymer ar 1 Mawrth 2022, yn rhannol oherwydd nad oeddech yn ymdopi â gofynion gofalu am bedwar o blant.

“Fe wnaethoch chi ysgwyd plentyn 10 mis oed (bron) mewn modd mor dreisgar gan achosi anafiadau cwbl ddifrifol. Achoswyd ei farwolaeth yn ystod ymosodiad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.