Newyddion S4C

'Chwip o athro': Myfyrwyr o Bwllheli'n cwblhau taith gerdded er cof am ddarlithydd

13/06/2024
Rhodri Scott

Mae myfyrwyr o Bwllheli wedi codi arian er cof am ddarlithydd o Goleg Meirion-Dwyfor fu farw o ganser yn gynharach eleni.

Bu farw Rhodri Scott o Forfa Nefyn yn 37 oed ym mis Mawrth eleni. 

Roedd yn dad i dri o blant.

Cododd y myfyrwyr chwaraeon o Goleg Meirion-Dwyfor dros £1,300 i Ymchwil Canser Cymru gyda thaith gerdded noddedig 16 milltir ar hyd llwybr yr arfordir o Bwllheli i Borth Neigwl ger Abersoch.

Mewn datganiad ar eu tudalen codi arian, dywedodd y myfyrwyr: "Rydyn ni fel criw chwaraeon yn y coleg yn gwneud taith gerdded noddedig er cof am ein hathro caredig, gofalgar ac arbennig iawn, Rhodri Scott.

“Collodd Rhodri’r frwydr ar ôl ychydig fisoedd o frwydro'r salwch. Roedden ni fel coleg wedi digalonni wrth glywed y newyddion ofnadwy.

"Roedd yn chwip o athro anhygoel a oedd bob amser yn llwyddo i godi gwên ar wynebau'r rhai oedd yn ei gwmni. Rydyn ni'n codi arian yn ei enw i'r elusen Ymchwil Canser felly mae pob rhodd yn cyfrif.”

Dywedodd y darlithydd chwaraeon a'i ffrind Gwyn Parry Jones: “Roedd Rhodri yn berson caredig a gofalgar iawn ac roedd staff a myfyrwyr wrth eu boddau gydag o. Roedd yn ddyn teulu ac yn frwd iawn am ei chwaraeon, gan fwynhau golff a physgota.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud y daith gerdded ers cwpl o flynyddoedd, ond dw i’n meddwl bod y ffaith ein bod yn ei gwneud er cof am Rhodri wedi gwneud y myfyrwyr yn fwy brwdfrydig, a chwaraeodd pawb eu rhan yn y gwaith trefnu.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.