Llywodraeth Cymru yn croesawu ymestyn mesurau i ddiogelu'r diwydiant dur
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynlluniau i ymestyn mesurau i ddiogelu’r diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei fod wedi pwyso ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno’r ymestyniad.
Bydd y mesurau yn sicrhau fod y sector yn parhau i gael ei amddiffyn rhag mewnforion o ddur rhad o dramor.
Daeth y cyhoeddiad rai wythnosau ar ôl i un o gyrff annibynnol Llywodraeth y DU ar fasnach ddweud y dylai tariffiau a chwotas ar naw math o ddur ddod i ben – penderfyniad a gafodd ei feirniadu gan y diwydiant.
Dywed y Gweinidog Masnach, Liz Truss, y bydd y mesurau mewn grym am flwyddyn arall, gyda mewnforion o du allan i’r cwota yn wynebu tariffiau o 25%.
Cafodd y cwotas eu cyflwyno i ddechrau yn 2019, yng ngwyneb pryder cynyddol am fewnforion o ddur rhad o wledydd fel China.
Yng Nghymru, mae gweithwyr yn safle dur Tata ym Mhort Talbot wedi wynebu pryderon am ddyfodol eu swyddi dros y blynyddoedd diwethaf.
'Mesurau cwbl hanfodol'
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Mr Gething: "Ers dod yn Weinidog Economi Cymru, rwyf wedi egluro i Lywodraeth y DU fod ymestyn y mesurau diogelu dur presennol yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu diwydiant dur y DU.
"Mae penderfyniad 11eg awr Llywodraeth y DU i wrando ar ein pryderon ni a phryderon y diwydiant, drwy ymestyn y mesurau diogelu hanfodol hyn am flwyddyn, i'w groesawu'n fawr.”
Mae’r Gweinidog Economi Cysgodol dros y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel “hwb mawr i ddur Cymru”.
Llun: Clint_Budd