Newyddion S4C

Ymchwiliad wedi i ymgeisydd Ceidwadol osod bet ar yr Etholiad Cyffredinol

13/06/2024

Ymchwiliad wedi i ymgeisydd Ceidwadol osod bet ar yr Etholiad Cyffredinol

Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr yn destun ymchwiliad wedi iddo gyfaddef ei fod wedi betio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.

Craig Williams oedd Ysgrifenydd Seneddol Preifat y Prif Weinidog Rishi Sunak ar y pryd. Nos Fercher,  fe wnaeth gyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad, gan ddweud:"Fe ddylwn i fod wedi ystyried sut roedd o'n edrych."

Mae'r Comisiwn Hapchwarae bellach yn ymchwilio i'r mater.

Dywedodd Mr Williams: "Fe wnes i osod bet ar yr Etholiad Cyffredinol rhai wythnosau yn ôl. O ganlyniad, mae rhai ymholiadau'n cael eu cynnal, a fe fydda i'n cydweithredu â rheiny. Dwi ddim eisiau i hyn dynnu sylw o'r ymgyrch."

Tra'n Aelod Seneddol hen etholaeth Trefaldwyn cyn galw'r etholiad, roedd Mr Williams yn aelod allweddol o dîm y Prif Weinidog, ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng Mr Sunak ac Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Mae papur newydd y Guardian yn dweud fod Mr Williams wedi gosod bet o £100, ychydig ddyddiau cyn i'r Prif Weinidog gyhoeddi y byddai'r Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf. Mae'r papur yn dweud y byddai bet llwyddiannus o'r fath wedi ennill £500.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Rydan ni'n ymwybodol o gyswllt rhwng ymgeisydd Ceidwadol a'r Comisiwn Hapchwarae. Mae'n fater personol i'r unigolyn dan sylw."

Image
Maldwyn a Glyndŵr

'Gwahardd'

Doedd llefarydd ar ran y Comisiwn ddim yn fodlon gwneud sylw ar achos unigol.

Ond ychwanegodd: "Os yw rhywun yn defnyddio gwybodaeth gyfrinachol i gael mantais annheg tra'n betio, gallai hyn fod yn drosedd o dan Adran 42 o'r Ddeddf Hapchwarae."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am wahardd Craig Williams fel ymgeisydd.

Dywedodd Daisy Cooper o'r blaid: “O ystyried bod Craig Williams yn gynorthwydd personol agos i Rishi Sunak, mae'n hanfodol bod y Prif Weinidog yn ei wahardd fel ymgeisydd ac fel aelod o'r blaid Geidwadol ar unwaith tra mae'r ymchwiliad yn cael ei gynnal."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.