Newyddion S4C

Siop lyfrau wedi mynd o 'nerth i nerth' heb 'gymuned Gymraeg amlwg yn yr ardal'

12/06/2024
Cant A Mil

Wrth i siop lyfrau yng Nghaerdydd ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, mae’r perchennog  yn dweud fod galw am adnoddau o’r fath yn dal i barhau – er nad oes “cymuned Cymraeg amlwg” yn yr ardal. 

Ac mae siop lyfrau Cant A Mil yn y Mynydd Bychan bellach wedi newid lleoliad i siop fwy o faint, a hynny yn rhannol er mwyn ymateb i’r galw. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd  y perchennog Jo Knell fod ‘na “bendant” alw am lyfrau Cymraeg, a’i bod yn teimlo’n gryf y dylen nhw fod ar gael i bawb. 

“Lle ydyn ni, dyw e ddim yn amlwg falle i bobl bod e’n gymuned Gymraeg," meddai.

“Ond os ydych chi’n agor siop Gymraeg mae pobl yn dod atoch chi, dwi’n falch o ddweud. 

“Yn sicr ar y dechrau roedd pobl yn cwestiynu os oedd na ddigon o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ond ‘dyn ni ‘di cael ein synnu ar yr ochr orau faint o siaradwyr sydd,” meddai. 

Yn ystod y pythefnos diwethaf, mae siop Cant A Mil wedi newid lleoliad “rhyw 100 llath lan y stryd” ar Ffordd Eglwys Newydd. 

Maen nhw bellach yn croesawu hyd yn oed mwy o gwsmeriaid, meddai Ms Knell, gan ei bod drws nesaf i Ysgol Mynydd Bychan, yn ogystal â bwytai a busnesau bach eraill.

“Mae pobl wedi ffeindio ni a nawr mae’n haws byth ffeindio ni – a bod e’n beth normal, cyffredin i gael siop lyfrau Cymraeg ar y stryd bellach."

'O nerth i nerth'

Mae Ms Knell yn angerddol dros ddarparu deunydd Gymraeg i drigolion lleol, ac mae’n awyddus iawn i helpu pobl sydd yn dysgu’r iaith. 

“Elfen sydd yn bwysig iawn i ni yn y siop yw’r llyfrau i siaradwyr newydd y Gymraeg," meddai.

“Ac mae mwy a mwy o lyfrau darllen i siaradwyr newydd, ac mae’n braf gallu stocio'r rheina i gyd a dangos y dewis i bobol a gweld be sy’n siwtio nhw.”

Ychwanegodd: “Dyn ni wastad wedi trio neud y siop yn hygyrch i bawb, faint bynnag o Gymraeg sydd gyda nhw. 

“Yn aml iawn dyn ni’n cael sgwrs Saesneg gyda phobl a falle bod nhw’n dweud, ‘Sorry I don’t speak Welsh’, a ni’n ychwanegu’r gair ‘-yet’ i’r diwedd,” meddai.

'Heriol'

Dywedodd Ms Knell fod y siop wedi mynd o “nerth i nerth” yn ystod y 10 mlynedd diwethaf – ond ei bod wedi wynebu rhai heriau ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys cyfnod y pandemig. 

“Daethon ni allan o’r cyfnodau clo fel busnes gwahanol, roedd elfen ar-lein yn bwysig iawn," meddai.

“Ond wrth ail-agor y siop, oedd y siop yn dawel iawn. Mae tyfiant ers hynny wedi bod yn raddol ond wedi cadw mynd. 

“Ond nawr mae’n gyfnod heriol o ran siopau ar Y Stryd Fawr. 

“Dyw e ddim yn fusnes lle chi mynd i ‘neud eich ffortiwn, dyw e ddim yn fusnes hawdd, ond mae’n rhywbeth da ni’n mwynhau gwneud ac mae pobl yn eu gwerthfawrogi yn fawr iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.