Newyddion S4C

Cwest: Merch wedi marw yn Florida o ganlyniad i foddi a ffit epilepsi

12/06/2024
Anna Beaumont

Mae cwest i farwolaeth merch 13 oed a fu farw ar wyliau yn Florida wedi clywed ei bod hi wedi marw o ganlyniad i foddi a ffit epilepsi.

Fe agorodd y cwest i farwolaeth Anna Beaumont, o Gaerdydd, yn Llys y Crwner Pontypridd ddydd Mercher 12 Mehefin.

Roedd Anna wedi bod yn ymweld â chyrchfan gwyliau Discovery Cove yn Orlando gyda’i theulu ar 28 Mai.

Clywodd  ei thad chwiban yr achubwr bywyd ychydig ar ôl 10.30.

Brysiodd draw a gweld achubwyr bywyd yn ceisio dadebru ei ferch.

Cafodd Anna Beaumont, a gafodd ei geni yn Sain Ffagan, ei chludo i ysbyty Arnold Palmer yn Florida ond bu farw ar 31 Mai 2024.

Clywodd y cwest bod archwiliad post-mortem yn yr ysbyty yn dangos ei bod hi wedi marw o ganlyniad i foddi a ffit epilepsi.

Dywedodd Patricia Morgan, crwner ardal Canol De Cymru, y byddai dyddiad yn cael ei osod ar gyfer cwest llawn unwaith y byddai ymchwiliadau pellach i amgylchiadau marwolaeth Anna a'i hanes meddygol blaenorol wedi'u cynnal.

Dywedodd y crwner y gallai hyn gymryd peth amser o ystyried y bydd angen i'w swyddog gael gwybodaeth gan awdurdodau yn Florida.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydymdeimlo â theulu Anna ar yr adeg drist yma," meddai'r crwner wrth y llys.

'Annwyl'

Fe wnaeth teulu Anna roi teyrnged iddi rhai dyddiau wedi ei marwolaeth.

“Roedd Anna yn enaid hardd sydd wedi cael ei chymryd oddi wrthym mewn damwain drasig," medden nhw.

“Rydym wedi ein syfrdanu gan ei cholled, ond ni fydd hi byth yn cael ei hanghofio.

“Hoffem ddiolch i’r timau ymateb brys a staff ysbyty Orlando a geisiodd mor galed i achub bywyd Anna.

“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatganiadau pellach ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr amser hynod anodd hwn.”

Dywedodd Andrew Williams, pennaeth ysgol Anna, sef Ysgol Gyfun Radur: “Mae meddwl am golli plentyn yn daith annirnadwy a gwn fy mod yn siarad ar ran cymuned yr ysgol gyfan pan ddywedaf fod ein meddyliau gyda theulu Anna wrth iddynt geisio i ddod i delerau â'u colled.

“Roedd Anna yn aelod annwyl o’n teulu ysgol, a bydd ei habsenoldeb yn cael ei deimlo’n fawr gan ddisgyblion, staff a phawb a gafodd y fraint o’i hadnabod.

“Fe wnaeth ei hysbryd, ei charedigrwydd a’i phresenoldeb gyffwrdd â chymaint o fywydau.”

Mae Discovery Cove yn gyrchfan cynhwysol ac yn chwaer barc i SeaWorld Orlando ac Aquatica Orlando.

Mewn ymateb i'r digwyddiad, dywedodd y cwmni wrth y cyfryngau lleol: “Ymatebodd ein staff i argyfwng yn ymwneud â gwestai ddoe (28 Mai).

“Darparodd ein tîm ofal a chysylltodd â Gwasanaeth Tân ac Achub Orange County.

“Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, fe wnaethon nhw gymryd drosodd a chludo'r gwestai i ysbyty cyfagos.

“Allan o barch at breifatrwydd ein gwesteion, nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth iechyd. Mae ein meddyliau gyda'r teulu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.