Tata i barhau i gau ffwrneisi Port Talbot er gwaethaf galwadau gan Lafur am oedi
Tata i barhau i gau ffwrneisi Port Talbot er gwaethaf galwadau gan Lafur am oedi
Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi y byddant yn parhau â chynlluniau i gau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, er bod y blaid Lafur wedi galw arnyn nhw i oedi'r penderfyniad.
Bydd miloedd o swyddi yn cael eu colli yn ne Cymru.
Roedd y blaid Lafur wedi galw ar y cwmni i beidio â bwrw ymlaen am y tro tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, sy'n cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.
Yn ôl aelodau blaenllaw'r blaid byddai modd cynnal trafodaethau newydd wedi'r etholiad.
Dywedodd y cwmni eu bod yn "bryderus" wedi adroddiadau yn y wasg y gallai ei gynlluniau ailstrwythuro fod yn "y fantol yn sgil gwahaniaethau polisi rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn ystod y cyfnod etholiadol."
Bwriad y cwmni ydi cau ffwrneisi chwyth a newid i ffordd fwy ecogyfeillgar o gynhyrchu dur.
Y cefndir
Ddydd Llun, fe wnaeth uwch swyddogion Llafur gan gynnwys Ysgrifennydd Cymreig yr wrthblaid, Jo Stevens, annog Tata i aros am lywodraeth Lafur bosib fis nesaf fel y gall trafodaethau newydd gael eu cynnal.
Ar ymweliad â'r ffatri ym Mhort Talbot, galwodd Ms Stevens ar y cwmni i oedi cyn cau'r holl ffwrneisi chwyth.
Dywedodd Ms Stevens ei bod yn “argyhoeddiedig” y byddai modd gwneud cynnydd.
“Yr hyn rydyn ni wedi’i ddweud wrth Tata o’r dechrau yw plîs peidiwch â gwneud unrhyw benderfyniadau di-droi’n-ôl cyn yr Etholiad Cyffredinol,” meddai.