Newyddion S4C

Nodi 80 mlynedd ers D-Day

10/06/2024

Nodi 80 mlynedd ers D-Day

Cyfle i gofio am y tro olaf o bosib, yng nghwmni y rheiny oedd yno.

Cymerodd dros 150,000 o filwyr rhan yng nglaniadau D-Day.

23 o'r rheiny wnaeth y daith o Brydain i Ffrainc y tro hwn.

Glaniodd filoedd o America, Canada a Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ar bump o draethau Normandy i ymladd yn erbyn y Natsiaid.

Heddiw, mae pobl wedi bod yn cofio hynny yn Normandy a thu hwnt.

Rhai'n gorymdeithio, rhai fel y canwr o Bontypridd, Tom Jones yn canu teyrnged bersonol.

♪ And I'll stand beside you

♪ As long as I can ♪

Roedd arweinwyr byd ymhlith y rhai fu'n nodi D-Day.

Wrth edrych yn ôl, roedd pwyslais hefyd ar heddiw.

"Now we have to ask ourselves, will we stand against tyranny, against evil, against crushing brutality of the iron fist?

"We stand for freedom."

Ac yn Bayeux, Côr Meibion Pendyrus yn ymuno yn y cofio dwys.

"Sioc i weld yr oedrannau 'na ar y beddi.

"'Dan ni o dan deimlad yn cerdded o gwmpas.

"Mae'n fraint i ni gael ein gwahodd yma i ganu yn y gwasanaeth."

Yn Abertawe, fel yn rhannau eraill o Gymru daeth cyn-filwyr a fu'n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd ynghyd.

Rhai ohonynt yn cofio bod yno ar draethau Normandy.

"Fi'n teimlo'n siomedig iawn.

"Mae'r byd hyn wedi mynd yn ffradach.

"Mae gormod o ryfela'n mynd 'mlaen a dynion yn colli bywyd heb eisiau.

"'Sdim eisiau fe.

"Tase pawb yn tynnu at ei gilydd yn lle ymladd.

"Mae'n wael, fi'n flin i glywed.

"Am beth mae'r dynion sy wedi colli bywyd 80 mlynedd yn ôl?

"I beth maen nhw wedi colli bywyd?"

Yn ogystal ag aelodau'r lluoedd roedd byddin gudd yn helpu gynllunio'r glaniad gan gynnwys Jack Derbyshire o Flaenau Ffestiniog a fu'n astudio sut i ragweld patrwm tonnau'r môr.

Gwybodaeth hanfodol ar gyfer glaniad D-Day.

"Mae gwahanol fathau o donnau sef rhai bychan sydyn a rhai hirach.

"Mae'r rhai hir yn hirach na'r cychod oedden nhw'n defnyddio.

"Os oedd tonnau yna, byddai'r cychod yn suddo.

"Roedd y gwaith yn hanfodol i ddeall pryd ddylen nhw fynd i'r cychod a dod a nhw i'r lan."

Cymro arall a fu'n bwysig wrth gynllunio D-Day oedd Hugh Iorys Hughes.

Un o'r tîm wnaeth lunio porthladdoedd Mulberry i warchod y llongau ger glannau Normandy ar ôl D-Day.

Rhai wedi adeiladau ym Morfa Conwy.

"Wnaeth ei syniadau fo ddim fod yn gwbl lwyddiannus ond wnaethon nhw ddylanwadu ar siâp terfynol y porthladdoedd Mulberry a throsodd i gyffiniau Ffrainc."

Roedd D-Day yn ddiwrnod hir a thrasig.

Collodd miloedd eu bywydau yn yr ymdrech fawr ar draethau Gogledd Ffrainc a fu'n drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd ac arweiniodd at drechu grymoedd Hitler.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.