Newyddion S4C

Dadl dros ddatblygiad pentref gwyliau ar Ynys Môn yn mynd i'r llys

10/06/2024

Dadl dros ddatblygiad pentref gwyliau ar Ynys Môn yn mynd i'r llys

Heddwch distawrwydd Penrhos.

Dyfodol y parc ar gyrion Caergybi dal yn aneglur heno.

Dyma i chi 200 erw o dir gwledig llawn bywyd natur.

Ers dros 10 mlynedd y bwriad ydy troi rhannau ohono yn barc gwyliau a chwmni Land and Lakes am godi cannoedd o gabanau pren, parc dŵr, neuadd chwaraeon a spa yma.

Wedi dros ddegawd o ddadlau, dyma daith newydd wrth i ymgyrchwyr herio'r caniatâd cynllunio gydag adolygiad barnwrol.

Ymhell o'r llys yng Nghaerdydd mae'r farn yn glir i bobl leol.

Mae Dafydd Pritchard yn cofio dod yma'n blentyn.

"Dw i 'di bod a 'mhlant a fy nghi i fan'ma.

"Mae'n lle prydferth iawn.

"Mae meddwl bod o'n cael ei ddwyn oddi wrth bobl lleol yn neud fi'n drist iawn.

"Once again, profit before people."

Mae'r cwmni Land and Lakes yn dweud bod nhw eisiau dod â swyddi yma.

Allech chi ddeall eu safbwynt neu rai sy'n cefnogi hynny?

"Dw i'n cefnogi hynna fy hun.

"Mae isio swyddi i bobl ifanc ond mae mwy 'san nhw'n medru neud a defnyddio safle sydd wedi'i chwalu yn barod."

Mae'r ardal yma yn hafan i bobl sy'n dod am dro.

Yn bwysicach bosib, mae'n warchodfa natur eithriadol o bwysig i'r adar sy'n bwydo yma, yr ystlumod sy'n hedfan yma dros nos a'r wiwer goch sy'n byw yma.

Heb son am bob math o blanhigion eraill yn yr ardal.

Ar ddiwrnod cynta'r adolygiad barnwrol dadleuon cyfreithiol oedd i'w clywed a dyfarniad pendant gan farnwr am ddyfodol y safle eto i ddod.

Ymysg y rhai oedd yma heddiw, pwyso a mesur y ddadl oedd nifer.

"Mae'n beth da i bobl ifanc os ydy pobl isio swyddi.

"Mae'n ardal hardd ofnadwy.

"Mae 'na lot o bobl yn dod yma a 'sa'n bechod colli hynna."

"Mae 'di gorffen, mae pawb yn meddwl.

"Mae pawb isio rhywle fel hyn i gerdded a cael awyr iach."

"Mae'n rhan fawr o fywyd bob dydd ni."

Mae'r cwmni datblygu yn mynnu byddai rhannau'r safle yn parhau ar agor i'r cyhoedd pe bai'r cynllun yn cael y golau gwyrdd.

Mae'r dadlau am y safle yn prysur gyrraedd ei phenllanw ond digon i bigo drosto cyn daw ateb ei ddyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.